Mae’r gallu Dadheintio Torfol wedi’i ddylunio i ddarganfod, adnabod a monitro halogyddion a chyfyngu a lleddfu eu heffeithiau ar yr werin. Mae hyn yn cynnwys dadheintio niferoedd mawr o bobl a darparu cymorth parhaus trwy gydol y cam adfer.
Mae gan y Gwasanaeth ddwy Uned Ymateb i Ddigwyddiad, a leolir yn Llanelli a Doc Penfro.
Mae’r uned yn cynnwys cerbyd ochr llenni, sy’n cynnwys cyfres o baledi storio offer a wagen fforch godi moffett, i ddadlwytho’r offer.
Yn ddamcaniaethol, gall bob peiriant ddadheintio 300 o aelodau o’r cyhoedd fesul awr, gan ddefnyddio strwythurau a adeiladwyd yn bwrpasol. Mae’r stwythur dadheintio torfol wedi cael ei ddatblygu’n benodol i gwrdd ag angen y DU i ddarparu gallu dadheintio ar raddfa fawr, ar gyfer dioddefwyr sy’n medru cerdded ac sy’n methu cerdded. Mae’r strwythur yn rhan o system dadheintio torfol cyffredinol a chaiff ei ategu gan offer cynorthwyol, sy’n darparu pwer, golau, gwres, dadhalogydd dŵr cynnes a chyfleuster casglu dŵr wedi’i halogi.