Ymateb
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddarparu’r ymateb gorau posib i argyfyngau ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn, 24 awr y dydd.
Rydym yn wasanaeth tân ac achub modern ac mae ein staff tra hyfforddedig yn barod i ymateb i amrywiaeth eang o argyfyngau, o ddiffodd tân yn y cartref i chwilio am anafedigion mewn adeilad sydd wedi cwympo.