Gwerthu i Ni
Os ydych yn
gyflenwr Nwyddau neu Wasanaethau, a hoffech gyfle i werthu i ni, yna mae gennym
ganllaw ar eich cyfer, sy’n esbonio ein hymagwedd at dendro a chaffael.
Dyluniwyd y
canllaw hwn i ddangos i gyflenwyr a chontractwyr sut i wneud y mwyaf o’r
cyfleoedd sydd ar gael. Mae’n anelu at
roi gwybodaeth a chyfarwyddyd i gyflenwyr a chontractwyr presennol a phosib, ar
sut i ymgeisio am gontractau’r Gwasanaeth. Mae hefyd yn egluro pa ddeddfwriaeth sy’n dylanwadu ar ein gofynion
tendro, ac mae’n disgrifio’r gweithdrefnau angenrheidiol i gynnig am waith
trwy:
- Egluro’r
rheolau caffael sy’n rhaid i’r Gwasanaeth eu dilyn.
- Amlinellu trothwyau tendro’r Gwasanaeth.
- Nodi sut yr ydym yn hysbysebu tendrau a
cheisiadau am ddyfynbrisiau (RFQ).
- Esbonio sut i gynnig am waith y Gwasanaeth.
Mae’r canllaw hwn
yn rhan o’n hymrwymiad at “Agor Drysau – Y Siarter ar gyfer Caffael sy’n
Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig” gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr ydym
wedi ymrwymo iddo.
Mynegiannau o
Ddiddordeb Gweithredol / Ceisiadau am Ddyfynbrisiau / Tendrau
Mae Gwasanaeth
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddefnyddio’r wefan Gaffael Genedlaethol i hysbysebu ei gyfleoedd i
Fynegi Diddordeb, Cais am Ddyfynbris a Thendro. Hyd yn hyn, mae gwerth mwy na £1 biliwn o gontractau sector cyhoeddus
Cymru wedi bod ar gael i fusnesau ar hyd a lled Cymru trwy’r Wefan Gaffael Genedlaethol (NPW). Mae’r wefan yn anelu at helpu Busnesau Bach a
Chanolig i ennill mwy o fusnes sector cyhoeddus ac mae’n galluogi busnesau i
chwilio a gweld cyfleoedd ar gyfer contractau mawr a bach, sy’n cael eu
hysbysebu gan sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.