Pencadlys y Gwasanaeth
Lleolir pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin. Mae’n adeilad o ddyluniad cyfoes, a adeiladwyd i bwrpas yn 2008 ar safle yn ymyl Gorsaf Dân Caerfyrddin.
Ceir canolfan gynadledda ar y campws, ble y cynhelir cyfarfodydd yr Awdurdod Tân a digwyddiadau pwysig eraill. Isod, ceir rhai lluniau o Gampws y Pencadlys a map o’r lleoliad y gellir ei lawrlwytho.