Tim Caplaniaeth
Mewn adegau o angen, gellir darparu cymorth bugeiliol a lles ar gyfer diffoddwyr tân, staff cymorth, eu teuluoedd a phersonél ymddeoledig, a darperir y cymorth yma gan rwydwaith o bedwar Caplan y Gwasanaeth Tân, sy’n gysylltiedig â Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae’r Caplaniaid ar gael i ymweld â phersonél y Gwasanaeth unrhyw bryd, boed hynny yn yr orsaf dân, yn y pencadlys neu mewn cyfnod o argyfwng yn y cartref, ni waeth i ba ffydd mae’r person yn perthyn. Gelwir arnynt yn aml i fynychu digwyddiadau sy’n argyfwng a, ble bod hynny’n briodol, maent yn rhoi cysur, yn cynnig gweddi neu gymorth bugeiliol i staff, yr anafedigion neu bobl eraill yn lleoliad y digwyddiad.