Mae Gorsaf Dân Pontarddulais ger aber afon Llwchwr ac fe’i hadeiladwyd yn y 1970au. Mae’n adeilad un llawr â dau fae peiriannau.
Mae’r orsaf yn delio â maestrefi prysur Abertawe a chymunedau Pontarddulais, Pontlliw, Yr Hendy, Llanedi, Pont Abraham a Waungron. Mae gan orsaf dân Pontarddulais:
Bwmp Achub sy’n rhoi rhagor o allu di-oed i ddiffoddwyr tân wrth ddelio â gwrthdrawiadau ffyrdd difrifol, yn ogystal â chynnal a gwella’r ffyrdd traddodiadol o ddelio â thanau. Mae ganddi’r offer tân ac achub diweddaraf yn ogystal â systemau gwybodaeth a luniwyd i sicrhau bod diffoddwyr tân yn cael y data diweddaraf ynglŷn â risgiau penodol.
Mae’r Orsaf hefyd yn Orsaf Ddŵr. Mae personél yn cael hyfforddiant er mwyn darparu cymorth mewn digwyddiadau dŵr llonydd e.e. llifogydd.