Atal
Er ein bod ni ar gael bob amser i ymateb pan fod tân neu argyfwng arall yn amlygu, lleihau ychydig ar eu heffaith yn unig fydd ein hymateb. Pan fod tân yn amlygu, yn aml, mae’n lledu mor gyflym fel ei bod hi’n rhy hwyr erbyn i’r Gwasanaeth Tân ac Achub i gyrraedd.
Gellir dweud yr un peth am Wrthdrawiadau ar y Ffordd, unwaith mae’r gwrthdrawiad wedi digwydd, mae’r difrod wedi’i wneud. Y ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu pobl rhag effeithiau damweiniau ac argyfyngau yw eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Felly, rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch a rhaglenni addysgol ar gyfer aelodau o’n cymunedau, er mwyn creu ymwybyddiaeth o risg a lleihau nifer y digwyddiadau sy’n amlygu.
Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid, megis yr Heddlu, y Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdurdodau Lleol, darparwyr Tai Cymdeithasol ac amryw o fudiadau trydydd sector, gan rannu gwybodaeth ac adnoddau i’n helpu ni sicrhau ein bod yn helpu’r rhai sydd fwyaf mewn perygl
Mae ein gweithgareddau ataliol yn seiliedig ar y math o ddigwyddiadau a fynychwyd gennym, ac ohonynt medrwn ddarganfod beth sy’n cyfrif fel risgiau i’n cymunedau ni.
Y pum prif gategori yw:
• Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref
• Addysg i Ysgolion
• Diogelwch ar y Ffyrdd
• Ymgysylltu ag Ieuenctid
• Llosgi Bwriadol
Er mwyn bod yn effeithiol, mae’n rhaid ymdrin â phob un o’r categorïau yma mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion y grŵp mewn perygl ac er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym wedi datblygu amryw o gynlluniau, a ddyluniwyd i drosglwyddo ein negeseuon yn y modd mwyaf effeithiol a gwneud pobl yn fwy ymwybodol o ddiogelwch.
Diogelu
Meysydd Allweddol o Weithgarwch
Ymgymryd â rhaglen archwilio mewn adeiladau Busnes neu Fasnachol. Bydd hyn yn seiliedig ar lefel y ‘risg’ a nodwyd neu ganfyddedig yn yr adeilad. Bydd adnoddau’n cael eu targedu a’u cyfeirio yn y lle cyntaf at adeiladau ‘risg uwch’, ac yna at adeiladau a nodwyd eu bod yn risg ‘Canolig’ ac ‘Isel’.
Hybu, gwella a chynyddu nifer yr adeiladau, Masnachol a Domestig, sydd wedi eu ffitio â Systemau Ysgeintio, Systemau Llethu Tân addas eraill a Systemau Larwm a Darganfod Tân priodol, gan gyflawni’r nod hwn trwy weithio’n agos gyda phartneriaid, cymhwyso’r canllawiau perthnasol a gorfodi’r ddeddfwriaeth gyfredol.
Lleihau nifer y signalau larwm tân awtomatig diangen, trwy weithio’n flaenweithgar gyda’r ‘Person Cyfrifol’ am y ‘system’ a osodwyd yn yr adeilad.
Lleihau dylanwad a lliniaru effeithiau llosgi bwriadol ar y gymuned fusnes, gan gyflawni’r nod hwn trwy raglen o addysg, arolygu neu archwilio a gorfodi.
Gweithio’n agos gyda rheolyddion Rheoli Adeiladu, i sicrhau bod mesurau diogelwch tân priodol yn cael eu hymgorffori yn yr amgylchedd ‘adeiledig’. Dylunio allan risgiau i ddiogelwch tân ar y cyfle cyntaf.
Ymateb
Er mai ein nod pennaf yw atal tanau ac argyfyngau eraill rhag amlygu, trwy ein gweithgareddau atal a diogelu, mae’n anochel bydd rhai argyfyngau’n datblygu, er gwaethaf ein hymdrechion gorau. Felly, byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf ar gyfer ein cymunedau, trwy sicrhau bod ein personél gweithredol yn derbyn yr ansawdd uchaf o hyfforddiant, fel eu bod wedi’u cyfarparu i ymdrin â phob math o achosion brys y maent yn cael eu galw i ymateb iddynt, a bod ganddynt ddealltwriaeth drylwyr o’r risgiau y gallent gael eu hamlygu iddynt.