Mae gan Gwm Afan,
sy’n adnabyddus ledled y byd am Barc Coedwig Afan, dreftadaeth fwyngloddio gyfoethog
ac mae’n enwog am ei lwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang. Personél Dyletswydd
Wrth Gefn sydd yng Ngorsaf Dân y Cymer, ac mae’n gwasanaethu poblogaeth o 6000.
Mae’r
Orsaf hefyd yn cefnogi’r Gwasanaeth Ambiwlans trwy ddarparu adeilad a chyfleusterau
lles ar gyfer parafeddygon. Lleolir yr Orsaf Dân oddi ar Heol yr Orsaf a gellir
ei chyrraedd trwy Heol Maesteg/Pont Avon Street. Lleolir yr orsaf yn strategol
i wasanaethu cymunedau Cwm Afan ac mae hefyd yn darparu cymorth gweithredol ym
Mhort Talbot, Castell-nedd a Maesteg. Mae’r Cymer mewn lleoliad gwledig wedi’i
hamgylchynu gan fynyddoedd a choedwigoedd ac mae’r A4107 yn torri trwy’r cwm.
Yr ardaloedd preswyl yw’r prif risg oherwydd y proffil deiliadaeth a’u lleoliad
agos at danau posibl mewn coedwigoedd. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Y Cymer, ffoniwch 0370 60 60 699 est 6600, os gwelwch yn dda.