Mae Glyn-nedd yng
Ngwm Nedd yn gartref i wlad y rhaeadrau. Ardal y rhaeadrau ger Pontneddfechan yw’r
porth i Fannau Brycheiniog.
Mae gan Orsaf Dân Glyn-nedd
Bersonél Dyletswydd Wrth Gefn ac mae’n gwasanaethu poblogaeth o 8000.
Adeiladwyd gorsaf dân Glyn-nedd yn y 1970au ac fe’i lleolir yn Wellfield Place
ochr yn ochr â’r Orsaf Ambiwlans Leol. Mae’r orsaf yn gwasanaethu tref
Glyn-nedd ac ardaloedd cyfagos Resolfen, Cwmgwrach, Pontneddfechan ac
Ystradfellte â’i rhaeadrau hardd. Mae ardal yr Orsaf yn wledig ar y cyfan ond
mae’n denu digwyddiadau megis Rali Cymru Prydain Fawr a digwyddiadau gwytnwch
gan gynnwys Pencampwriaeth Beicio Mynydd Disgynnol Cymru a sawl triathlon wrth
byllau lleol Rheola. Mae’r digwyddiadau hyn yn denu miloedd o wylwyr i’r ardal
bob blwyddyn.
Lleolir yr orsaf yn strategol i wasanaethu cymunedau
Cwm Nedd ac mae hefyd yn darparu cymorth gweithredol yng Nghastell-nedd,
Hirwaun, Blaendulais ac Aber-craf. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Glyn-nedd, ffoniwch 0370 60 60 699 est 6600, os gwelwch yn dda.