Mae gan ardal gorsaf Cydweli boblogaeth o 8,078. Mae Cydweli
yn dref tua 10 milltir (16km) i’r gogledd ddwyrain o’r brif dref
sef Llanelli, ac mae ger afon Gwendraeth fach uwchben Bae
Caerfyrddin.
Mae’r orsaf yn gwasanaethu tref Cydweli a’r cymunedau cyfagos
sef Llansaint, Glanyfferi, Llandyfaelog, Mynydd y Garreg a Phen-bre.
Mae’r ardal y mae’r orsaf yn gyfrifol amdani yn cynnwys Porth Tywyn
a Moryd Tywi o Gefn Sidan yn y dwyrain i Lanyfferi yn y gorllewin.
Mae’r prif rwydwaith rheilffyrdd rhwng Caerfyrddin ac Abertawe yn
mynd trwy ardal Cydweli o’r naill ben i’r llall. Mae cylch rasio cyfagos
Pen-bre a maes awyr i awyrennau bach, glanfa hofrennydd a’r maes
bomio yn RAF Pen-bre yn cynyddu’r risg leol.