Mae gan ardal gorsaf Llanelli boblogaeth o 54,495. Llanelli yw’r Dref
fwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae wedi’i lleoli ger Moryd Llwchwr
ar arfordir gorllewin Cymru, tua 10 milltir (16 cilomedr) i orllewingogledd-
orllewin Abertawe a 12 milltir (19 cilomedr) i’r de ddwyrain
o dref y sir, Caerfyrddin. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad
rygbi balch ac mae’n ganolfan cynhyrchu tunplat.
Mae’r orsaf yn gwasanaethu tref Llanelli a’r ardaloedd cyfagos sy’n
cynnwys Porth Tywyn a Llangennech. Mae’r prif risgiau yn yr ardal yn
cynnwys diwydiant trwm megis dur TATA yn Nhrostre a Calsonic yn
Felin-foel. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys sawl ffatri a warws, siopau
manwerthu helaeth a llawer o dai tafarn, clybiau a gwestai.
Mae’r M4 yn ymyl ei ffin, mae’r rheilffordd sy’n cysylltu â Paddington
yn rhedeg trwyddi ac mae system gefnffyrdd brysur yn bwydo’r
canol. Mae gan Lanelli sawl cymuned breswyl fawr sy’n arwain at
gyfradd uwch ar gyfartaledd o danau preswyl nag yn ardaloedd
eraill Sir Gaerfyrddin.
Mae gan y dref ysbyty, coleg a sawl ysgol uwchradd a chynradd. Mae
ganddi 3 canolfan siopa brysur (Elli, Trostre a Phemberton).