Mae gan ardal gorsaf y Tymbl boblogaeth o 12,436. Mae’r Tymbl yn
bentref i’r de o Cross Hands ger trefi Caerfyrddin a Llanelli. Mae’r
Tymbl, yn ogystal â Chross Hands, yn rhan o gymuned Llanon.
Datblygwyd y Tymbl yn y 19eg ganrif i gartrefu mwynwyr glo carreg
a oedd yn cael eu cyflogi ym mhyllau glo Dynant a Great Mountain.
Mae’r brif ardal y mae’r orsaf yn gyfrifol amdani yn estyn o Garmel yn
y gogledd, Llanon yn y de, Capel Hendre yn y dwyrain a Llanddarog
yn y gorllewin. Y prif risg ar gyfer y Tymbl a’r ardaloedd cyfagos yw’r
rhwydwaith o ffyrdd A a B yn ogystal â chefnffordd yr A48. Y prif risg i’r ardal yw
Gwrthdrawiadau ar y Ffordd.
I’r gogledd o’r Tymbl mae Cross Hands â’i diwydiant ysgafn ac ardal
fasnachol.