Mae gan Lanfyllin boblogaeth o 8,420. Mae tref fach Llanfyllin wedi’i
lleoli yng ngogledd Sir Drefaldwyn a saif wrth galon cymuned amaethyddol eang
ym mhen Cwm Cain.
Mae’r orsaf yn
gwasanaethu tref Llanfyllin a’r cymunedau cyfagos megis Aber-Naint,
Llanfechain, Tycrwyn, Llanfihangel a Bwlchycibau.
Y prif risg ar
gyfer Llanfyllin a’i chymunedau cyfagos yw’r rhwydweithiau o ffyrdd A a B sy’n
arwain at y dref.
Ger y dref yn
Llanrhaeadr, mae’r rhaeadr uchaf yng Nghymru a Llyn Efyrnwy, sef cronfa ddŵr a
chanddi argae cerrig sy’n dal tua 10 miliwn galwyn o ddŵr. Mae’r llyn a’r
rhaeadr yn denu llawer o ymwelwyr i’r ardal trwy’r flwyddyn. Mae eu lleoliadau
anghysbell a’r math o ffyrdd (ffyrdd B) sy’n arwain at yr atyniadau hyn yn
cynyddu’r risg o wrthdrawiadau cerbydau yn yr ardal.