Mae gan dref Rhaeadr Gwy boblogaeth o 3,340. Fe’i lleolir ar groesffordd
naturiol rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin, y Gogledd a’r De, a thros y canrifoedd,
mae wedi croesawu Rhufeiniaid, Mynachod a Phorthmyn, a'r dyddiau hyn mae’n
croesawu llawer o ymwelwyr bob blwyddyn.
Er bod amaethyddiaeth yn parhau’n elfen bwysig iawn o fywyd yma fel y
gwelir yn glir yn y Farchnad Da Byw wythnosol, mae’r tirlun hynafol a
phrydferth yn darparu cyfoeth o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau modern megis
gwylio adar, cerdded a beicio mynydd yn yr ardaloedd o amgylch Cwm Elan,
Gwastedyn Hill ac Afon Gwy.
Mae’r Orsaf Dân
yn darparu gwasanaeth gweithredol a chyngor a gweithgareddau diogelwch
cymunedol i bentrefi Llanwrthwl, Nantmel, Abaty Cwm-hir, Saint Harmon a
Phant-y-dŵr yn ogystal â’r dref ei hun.
Y prif risg ar
gyfer Rhaeadr Gwy a’i chymunedau cyfagos yw’r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn
ogystal â chefnffordd yr A470 sy’n mynd trwy’r dref.