Mae gan Dalgarth boblogaeth o 4,461. Mae’n dref wledig dawel gydag ychydig
o dafarndai a gwestai, sy’n agos at Aberhonddu, Crucywel a’r Gelli Gandryll. Ystyr
llythrennol Talgarth yw diwedd y bryniau. Mae gan yr hen dref strydoedd cul a
phensaernïaeth o’r 19 ganrif yn ogystal â chastell Bronllys (un o’r nifer o
gestyll ger y ffin) a hefyd Tŵr Normanaidd o gyflwr da a oedd yn wreiddiol yn
gaer wedi’i hamddiffyn gan gylch o dyrau muriog. Mae’r Orsaf yn gwasanaethu
Talgarth a chymunedau cyfagos Bronllys, Aberllyfni a Llan-gors.
Y prif risgiau ar gyfer Gorsaf Dân Talgarth yw’r storfa nwy Calor yn
Aberllyfni, cefnffyrdd yr A479 rhwng Talgarth a Chrucywel, yr A470 a’r A438 rhwng Bronllys a’r Gelli Gandryll. Mae
gan y dref risgiau eraill hefyd sy’n cynnwys ysgol ac Afon Wysg lle rydym
wedi’n galw i amryw o ddigwyddiadau.