Mae gan dref glan y môr yn ne Sir Benfro, Dinbych-y-pysgod, boblogaeth o
14,569 sy’n codi i dros 25,000 yn yr haf.
Mae’r orsaf yn
cynnwys de ddwyrain Sir Benfro gan gynnwys Jameston, New Hedges a Saundersfoot.
Y prif risg yn
ardal Dinbych-y-pysgod yw’r risg yn ystod y nos oherwydd y nifer uchel o westai
yn y dref a sawl maes carafanau yn yr ardal gyfagos. Adeiladwyd y dref yn
wreiddiol ar gyfer ceffyl a chert ac mae ganddi strydoedd cul sydd erbyn hyn yn
brysur iawn yn yr haf. Mae gwrthdrawiadau traffig ffyrdd hefyd yn risg ar
ffyrdd gwledig prysur â thraffig y gwyliau.