Skip Ribbon Commands
Skip to main content

​Remuneration Committee

Pwyllgor Cydnabyddiaeth y Prif Swyddog Tân yn gyfrifol am werthuso perfformiad y Prif Swyddog Tân yng ngoleuni'r targedau y cytunwyd arnynt, ac o ganlyniad i hyn, bydd pennu'r lefel briodol o dâl.​

​Gelwir arnoch drwy hyn i fynychu cyfarfod o Bwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Arbennig y Prif Swyddogion, a gynhelir yn Ystafell Tywi, Pencadlys y Gwasanaeth Tân, Caerfyrddin ar ddydd Llun 25 Ebrill 2016 am 12:30.


Agenda

1.Ymddiheuriadau am Absenoldeb
2.Datganiad gan Aelodau o unrhyw Fuddiannau Personol a / neu Sy’n Rhagfarnu
3.Cyhoeddiadau’r Cadeirydd / Materion Personol
4.I gytuno, yn unol ag adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod oherwydd, pe byddent yn bresennol, mae’n debygol byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei ddatgelu iddynt yn unol ag Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sef: Paragraff 12: Gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn penodol. Paragraff 14: Gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr Awdurdod sy’n meddu ar yr wybodaeth hynny).
5.I dderbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol, a gynhaliwyd ar yr 07 Mawrth 2016.
6.Cytuno ar Amcanion Perfformiad y Prif Swyddog Tân ar gyfer 2016/17.
7.Cael a chymeradwyo adroddiad ar Broses Adolygu Cyflogau Flynyddol ar gyfer Prif Swyddogion
8.Cael ac ystyried adroddiad ar Ailgyflogi Diffoddwyr Tân sydd Wedi Ymddeol
9.Unrhyw eitemau arall o fusnes y mae’r Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau arbennig, yn penderfynu y dylid eu hystyried fel mater o frys yn unol ag Adran 100(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972