Pwyllgor Rheoli
Adnoddau
Mae’r Pwyllgor
Rheoli Adnoddau’n gyfrifol am reoli adnoddau’r Awdurdod Tân yn effeithiol, yn
enwedig rheoli a datblygu materion ariannol, dynol ac eiddo’r Awdurdod, ynghyd
â’i swyddogaethau caffael, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), adnoddau
dynol a thrafnidiaeth a’r modd mae’n gweithio’n agos gyda’i fudd-ddeiliaid.

Crëwyd y Pwyllgor Rheoli Adnoddau yn ddiweddar, trwy uno’r Pwyllgor
Adnoddau a’r Pwyllgor Datblygu Pobl a’r Gyfundrefn. Oherwydd hyn, mae dogfennau’n ymwneud â’r
Pwyllgor Adnoddau a’r Pwyllgor Datblygu Pobl a’r Gyfundrefn wedi cael eu
harchifo.