“Bydd ysgeintwyr yn difetha rhannau o fy nhŷ / busnes nad yw’r tân yn eu heffeithio”
Anghywir, myth yw hwn o ganlyniad i raglenni teledu a ffilmiau. Mae systemau ysgeintio’n cynnwys cyfres o bibellau, sy’n terfynu ym mhennau ysgeintwyr. Pan fod tân yn amlygu, mae’r gwres a roddir gan y fflam yn achosi’r hylif tu mewn i fwlb gwydr, sydd ynghlwm wrth ben yr ysgeintiwr, i ehangu nes i’r bwlb dorri gan ryddhau dŵr dros y tân. Oherwydd bod y gwres wedi’i gyfyngu i ben yr ysgeintiwr yn ardal y tân yn unig, ni fydd pennau eraill yn cael eu heffeithio, felly bydd pennau eraill ddim yn actifadu ac ni fyddant yn rhyddhau dŵr ar ardaloedd o’r adeilad nas effeithiwyd. Fodd bynnag, os bydd y tân yn lledu, yna bydd mwy o bennau’n cael eu heffeithio, gan achosi i fwy o bennau i dorri a bydd mwy o ddŵr yn cael ei ryddhau, mewn ymgais i rwystro’r fflamau rhag lledu.
“Bydd ysgeintwyr yn difetha gorffeniad fy nenfwd”
Anghywir unwaith eto, gellir cuddio pennau ysgeintwyr uwchben nenfydau crog ac mae arnynt gloriau sy’n eu gwneud nhw’n llai gweladwy. Bydd angen i chi siarad â’ch contractwr gosod ysgeintwyr i weld beth ellir ei wneud.
“Mae ysgeintwyr yn achosi mwy o ddifrod na’r tân”
Mae'r system ysgeintio’n ymosod ar y tân yn uniongyrchol, felly mae’n defnyddio llai o ddŵr. Mae rhai systemau’n gweithredu’r larwm tân unwaith y cânt eu hactifadu, felly gellir diffodd y system ysgeintio unwaith fydd y tân wedi’i ddiffodd.
“Mae systemau ysgeintio yn ddrud i’w gosod”
Dywedwyd nad ydynt yn fwy drud i’w gosod na charped o ansawdd da, fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ble maent yn cael eu gosod ac unrhyw amodau arbennig eraill sydd eu hangen yn y lleoliad y gosodir nhw e.e. ardaloedd wedi eu rheweiddio ayb. Mae yswirwyr yn medru edrych yn ffafriol ar osod system ysgeintio, ac maent yn medru cynnig gostyngiad ar bremiymau, felly gydag amser, bydd y gosodiad yn talu amdano ef ei hun. Gofynnwch i’ch yswirwyr, i weld beth sydd ganddynt i’w ddweud.
“Nad yw synwyryddion mwg yn rhoi digon o amddiffyniad rhag tân?”
Mae synwyryddion mwg yn gwneud gwaith ardderchog wrth achub bywydau, oherwydd eu bod yn rhoi mwy o amser i ddianc o’r adeilad. Fodd bynnag, nid ydynt yn gwneud unrhyw beth i ddiffodd y tân na’i gyfyngu ef.
“Mae ysgeintwyr yn medru actifadu trwy ddamwain”
Dywedir eich bod chi’n fwy tebygol o ennill y loteri na chael ysgeintiwr i actifadu trwy ddamwain.