COFRESTR GYHOEDDUS HYSBYSIADAU
Fel rhan o’n gwaith i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ymweld, ac yn archwilio amryw o safleoedd busnes a masnachol. Os ydym yn darganfod problemau a allai wneud y safle’n anniogel, medrwn gymryd camau i sicrhau bod y person sy’n gyfrifol am y safle’n datrys y problemau yma. Mae hyn yn cynnwys gweini hysbysiadau cyfreithiol, sy’n gofyn i’r person cyfrifol i gymryd camau penodol, oddi fewn i gyfnod penodedig fel arfer, i sicrhau bod y safle’n ddiogel. Fel awdurdod gorfodi deddfwriaeth diogelwch tân, mae’n ofynnol i ni, yn unol â’r gyfraith (Deddf Gwybodaeth am yr Amgylchedd a Diogelwch 1988), i gadw cofrestr gyhoeddus sy’n rhoi peth gwybodaeth am yr hysbysiadau yma. Mae’r hysbysiadau sy’n gynwysedig yn y gofrestr fel a ganlyn: