Canllawiau Asesu
Risg o Dân
Beth yw asesiad
risg o dân?
Mae asesiad risg
o dân yn cymryd golwg drefnedig a threfnus ar eich safle chi, y gweithgareddau
sy’n cael eu cyflawni yno a’r tebygrwydd y gallai tân amlygu ac achosi niwed
i’r bobl ar y safle ac yn y cyffiniau.
Nodau’r asesiad
risg o dân yw:
Dod o hyd i
beryglon tân.
Lleihau’r risg
y bydd y peryglon hynny’n achosi niwed, cyn belled ag sy’n rhesymol o
ymarferol.
Penderfynu pa
ragofalon tân materol a threfniadau rheoli sydd eu hangen i sicrhau diogelwch
pobl yn eich adeilad, pe byddai tân yn amlygu.
Os yw eich sefydliad yn cyflogi pump neu fwy o bobl, os yw eich adeilad
yn un trwyddedig neu fod hysbysiad addasu yn galw am hynny, mewn grym, yna
mae’n rhaid i ganfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg o dân, y camau sydd
angen eu cymryd o ganlyniad i’r asesiad a manylion unrhyw un sydd mewn perygl
yn arbennig, i gael eu cofnodi. Efallai
byddai’n ddefnyddiol i chi gadw cofnod o ganfyddiadau arwyddocaol eich asesiad
risg o dân, hyd yn oed os nad yw’n ofynnol i chi wneud hynny.
Canllaw i Ddewis Aseswr Risgiau Tân Cymwys
Mae’r Gyfraith yn dweud fod yn rhaid i’ch Asesiad Risgiau Tân chi i fod yn addas ac yn ddigonol ac mae’n rhaid iddo gael ei gynnal gan berson / bersonau cymwys. Diffinnir person cymwys fel rhywun sydd wedi derbyn digon o hyfforddiant a chanddo ddigon o brofiad neu ddealltwriaeth a rhinweddau eraill i fedru rhoi’r mesurau yma ar waith yn briodol. Gallwch chi gynnal yr asesiad eich hunan, fodd bynnag, os ydych chi, cyn neu wedi darllen y canllawiau, yn teimlo nad oes gennych wybodaeth neu ddealltwriaeth briodol o ddiogelwch tân a’r risg mae tân yn ei beri i bobl i gydymffurfio’n effeithiol â’ch dyletswyddau cyfreithiol, bydd angen i chi benodi arbenigwr i gynnal yr asesiad risgiau tân ar eich rhan chi.
Bwriedir y Canllaw isod i’ch cynorthwyo chi i ddewis Aseswr Risgiau Tân cymwys, fel y medrwch gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Canllaw i Ddewis Aseswr Risgiau Tân Cymwys (PDF, 399kb)
Sut mae cynnal
asesiad risg o dân?
Bydd asesiad risg
o dân yn eich helpu i benderfynu ar y siawns y bydd tân yn amlygu, a’r peryglon
tân mae eich safle’n eu cyflwyno i’r bobl sy’n ei ddefnyddio ac unrhyw un yn y
cyffiniau.
Bydd llawer o’r
wybodaeth ar gyfer eich asesiad risg o dân yn dod o’r wybodaeth sydd gan eich
gweithwyr, cydweithwyr a chynrychiolwyr am y safle, yn ogystal â gwybodaeth a
roddwyd i chi gan bobl sydd â chyfrifoldeb am rannau eraill o’r adeilad. Mae’n debygol iawn y bydd angen mynd o gwmpas
eich safle i gadarnhau, diwygio neu ychwanegu manylion at eich barnau
cychwynnol.
Mae’n bwysig eich bod yn cynnal eich asesiad risg o dân mewn modd
ymarferol a threfnus, a’ch bod yn neilltuo digon o amser i’w wneud yn
iawn. Mae’n rhaid i’r asesiad roi
ystyriaeth i’r safle cyfan, yn cynnwys lleoliadau yn yr awyr agored ac unrhyw
ystafelloedd ac ardaloedd nad sy’n cael eu defnyddio’n aml iawn. Os mai safle bach ydyw, mae’n bosib byddwch
yn medru ei asesu’n gyffredinol. Ar
safle mwy o faint, mae’n bosib bydd yn ddefnyddiol i chi ei rannu i
ystafelloedd neu gyfres o ardaloedd i’w hasesu, gan ddefnyddio ffiniau
naturiol, e.e. ardaloedd megis ceginau a londrïau, ystafelloedd gwely,
swyddfeydd, storfeydd, yn ogystal â choridorau, grisffyrdd a llwybrau allanol.
Yn unol â chyfraith iechyd a diogelwch (sy’n cael ei orfodi gan yr
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r awdurdod lleol), mae gofyn i chi
gynnal asesiad risg mewn perthynas ag unrhyw weithgareddau ar eich safle ac i
gymryd, neu lynu wrth, fesurau arbennig, technegol neu sefydliadol
priodol. Os yw eich asesiad risg iechyd
a diogelwch yn canfod bod y gweithgareddau yma’n debygol o olygu risg o dân,
neu risg y bydd tân yn lledu (yn y gegin neu mewn gweithdy er enghraifft), yna
bydd angen i chi ystyried hyn yn ystod eich asesiad risg o dân a blaenoriaethu
eich camau gweithredu yn seiliedig ar y lefel o risg.
Mae angen i chi
benodi un neu fwy o ‘bersonau cymwys’ (gall fod yn chi’ch hunan), i gyflawni
unrhyw fesurau ataliol ac amddiffynnol sy’n ofynnol. Gall y person hwn fod yn weithiwr sydd wedi’i
hyfforddi’n briodol neu’n drydydd parti, ble bod hynny’n briodol.
Asesiad risg o
dân
Dylai eich
asesiad risg o dân ddangos, cyn belled ag sy’n rhesymol, eich bod wedi ystyried
anghenion yr holl bobl berthnasol, yn cynnwys pobl anabl.
Cam 1 – Canfod y
peryglon ar eich safle
Mae angen i chi
ganfod:
ffynonellau
tanio megis fflamau noeth, gwresogyddion neu rai prosesau masnachol;
ffynonellau o danwydd megis gwastraff wedi cronni, deunydd arddangos,
tecstilau neu ormodedd o gynnyrch; a
Ffynonellau o
ocsigen megis systemau tymheru aer neu gyflenwadau ocsigen meddyginiaethol neu
fasnachol.
Cam 2 – Canfod
pobl sydd mewn perygl
Bydd angen i chi
ganfod y bobl hynny a all fod mewn perygl yn arbennig, megis:
pobl sy’n
gweithio’n agos i beryglon tân;
pobl sy’n
gweithio ar eu pennau hunain neu mewn ardaloedd arunig (megis gwagle’r to neu
stordai);
plant neu rieni
gyda babanod; a phobl oedrannus neu fethedig neu bobl sy’n anabl.
Cam 3 - Gwerthuswch, dilëwch, lleihewch a diogelwch rhag y risg
Gwerthuswch y
lefel o risg ar eich safle. Dylech chi
ddileu neu leihau unrhyw beryglon tân, ble bod hynny’n bosib, a lleihau unrhyw risgiau
yr ydych wedi eu canfod. Er enghraifft,
dylech chi:
newid
defnyddiau fflamadwy iawn am rai llai fflamadwy;
sicrhau eich
bod yn gwahanu defnyddiau fflamadwy oddi wrth ffynonellau tanio; a
bod â pholisi
ysmygu’n ddiogel.
Pan fyddwch wedi lleihau’r risg gymaint ag sy’n bosib, mae’n rhaid i chi
asesu unrhyw risg sy’n weddill a phenderfynu p’un ai bod unrhyw fesurau pellach
y mae angen i chi eu cymryd, i sicrhau eich bod yn darparu lefel resymol o
ddiogelwch rhag tân.
Cam 4 – Cofnodwch,
cynlluniwch, cyfarwyddwch, hysbyswch a hyfforddwch
Yn y cam hwn,
dylech chi gofnodi, cynllunio, cyfarwyddo, hysbysu a hyfforddi. Bydd angen i chi gofnodi’r peryglon a’r bobl
yr ydych wedi canfod sydd mewn perygl yn arbennig yng ngham 1 a cham 2. Dylech chi gofnodi hefyd beth wnaethoch chi
ynglŷn â’r peth yng ngham 3. Gall
cynllun syml eich helpu i gyflawni hyn.
Yn ogystal, bydd
angen i chi baratoi cynllun at argyfwng, wedi’i deilwrio ar gyfer eich safle
chi. Dylai gynnwys y camau sydd angen i
chi eu cymryd os oes tân yn amlygu ar eich safle chi neu unrhyw safle gerllaw.
Bydd angen i chi
roi cyfarwyddiadau i staff a phobl eraill, o bryd i’w gilydd, megis gwesteion
mewn gwesty neu stiwardiaid gwirfoddol. Dylai pob gweithiwr dderbyn digon o wybodaeth a hyfforddiant am y
risgiau sy’n bodoli ar y safle. Bydd
angen hyfforddiant mwy trylwyr ar rai, megis marsialiaid tân.
Cam 5 – Adolygwch
Dylech chi ofalu bod eich asesiad risg o dân yn gyfoes. Bydd angen i chi ail-archwilio eich asesiad
risg o dân os ydych yn amau nad yw’n ddilys bellach, megis os bu damwain bron a
digwydd a phob tro y ceir newid sylweddol i lefel y risg ar eich safle. Gallai hyn gynnwys:
os ydych yn
storio mwy o ddefnyddiau a allai fynd ar dân yn hawdd;
bod sifft nos
newydd yn dechrau; neu
newid yn y math
neu’r nifer o bobl sy’n defnyddio eich safle.