Seinio’r rhybudd
Os yw eich larwm mwg yn canu tra eich bod yn cysgu,
peidiwch â mynd i weld a oes tân.
Gweiddwch er mwyn dihuno pawb, ceisiwch gael pawb at ei gilydd, dilynwch
eich cynllun ac ewch allan.

Teimlwch y drysau gyda chefn eich llaw – os ydynt yn
boeth, peidiwch â’u hagor – mae’r tân ar yr ochr arall.
Os oes llawer o fwg, ymlusgwch gyda’ch trwyn yn agos
i’r llawr, ble mae’r aer yn fwy glân.
Dianc
Os oes yn rhaid i chi dorri ffenest, gorchuddiwch
ymylon miniog y gwydr gyda thywelion neu ddillad gwely trwchus;
Peidiwch â neidio allan o’r ffenest – gostyngwch eich
hun i hyd braich ac yna disgynnwch i’r ddaear;
Os oes plant neu
bobl oedrannus neu anabl gyda chi, cynlluniwch ym mha drefn y byddwch yn dianc,
fel y medrwch eu helpu nhw i lawr.
Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i’ch cartref
Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub o
ffôn symudol, ffôn cymydog neu flwch ffôn. Rhowch gyfeiriad y tân.
Peidiwch ag aros na dychwelyd i fofyn unrhyw beth.
Beth i’w wneud os yw eich llwybr dianc wedi’i flocio
Ceisiwch gael pawb i mewn i un ystafell a chaewch y
drws. Mae mwg a mygdarth yn medru lladd
yn gyflym, felly gosodwch ddillad gwely neu dywelion ar hyd gwaelod y drws er
mwyn selio’r bwlch.
Agorwch y ffenest ac arhoswch gerllaw, er mwyn cael
awyr iach ac i adael i’r diffoddwyr tân i’ch gweld chi.
Deialwch 999 er mwyn galw’r Gwasanaeth Tân allan neu
gweiddwch am gymorth, fel y gall rhywun ffonio ar eich rhan.
Cofiwch, mae cynllun gweithredu mewn tân yn ymwneud â mwy
na dim ond dianc, mae’n dweud wrthych sut i atal tân rhag amlygu yn y lle
cyntaf. Cymerwch beth amser i baratoi
eich cynllun gweithredu mewn tân heddiw, gallai achub eich bywyd.