Diogelwch Myfyrwyr
Mae partïon, ysmygu ac yfed
alcohol yn rhan o fywyd myfyriwr – ond gallant olygu bod fwy o risg y bydd tân
yn amlygu.
Byddwch yn ofalus iawn os
ydych yn ysmygu wedi i chi yfed alcohol, a byddwch yn ofalus os oes chwant
tships arnoch yng nghanol y nos – mae traean o’r holl anafiadau sy’n berthynol
i ffrïo saim dwfn yn digwydd rhwng 10yh a 4yb!
Gosodwch
larwm mwg
Sicrhewch fod larymau mwg
wedi eu gosod ar bob lefel yn eich tŷ - mae tai rhent yn llai tebygol o gynnwys
larymau mwg, a heb larwm mwg rydych chi ddwywaith mor debygol o farw mewn
tân. Os ydych yn fyfyriwr yng Nghymru,
medrwch wneud cais am ymweliad diogelwch rhag tân yn y cartref gan eich
gwasanaeth tân ac achub lleol, sy’n medru darparu a gosod larwm mwg am ddim -
ffoniwch 0800 169 1234.