Swyddi Gwag Staff Cymorth
CYNORTHWYYDD CAFFI RHAN AMSER DROS DRO x 2
CAFFI GORSAF DÂN ABERYSTWYTH
GRADD 2 – £15,613-£16,491 (pro-rata)
Ar hyn o bryd mae yna ddwy swydd wag dros dro yng Nghaffi Gorsaf Dân Aberystwyth ar gyfer Cynorthwyydd Caffi Rhan Amser. Swyddi 18.5 awr yr wythnos yw'r rhain (o ddydd Llun i ddydd Gwener), a hynny am gyfnod dros dro cychwynnol o 12 mis.
Bydd yr unigolion llwyddiannus yn Cynorthwyo Rheolwr y Caffi wrth weini cwsmeriaid a chyflawni tasgau bob dydd, gan gynnwys gwaith paratoi bwyd a diod sylfaenol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swyddi, cysylltwch â Phennaeth Ardal Reoli Sirol Ceredigion, y Rheolwr Grŵp Sion Slaymaker, ar 01792 705281.
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gweler y fanyleb person, y swydd ddisgrifiad, y ffurflen gais a'r canllawiau cais sydd ynghlwm.
Ar ôl ei llenwi, rhaid dychwelyd y ffurflen gais at Miss Danielle Phillips, Yr Adran Adnoddau Dynol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Pencadlys y Gwasanaeth, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin, SA31 1SP (dm.phillips@mawwfire.gov.uk), erbyn 1630 ar 18 Ebrill 2018, fan hwyraf.
PENNAETH YR ADRAN TGCH
PENCADLYS Y GWASANAETH, CAERFYRDDIN
GRADD 15 – £50,166-£51,981
Mae swydd wag ar gael ar gyfer Pennaeth yr Adran TGCh yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi'i lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth yng Nghaerfyrddin. Swydd 37 awr yr wythnos yw hon.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sefydliad blaengar sy'n ceisio gwella'r modd y mae'n darparu gwasanaeth yn barhaus, a hynny yn rhan o agenda effeithlonrwydd ehangach. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi diweddaru llawer o'n systemau TG i gefnogi ein hamcanion effeithlonrwydd, ac elfen o hynny yw mabwysiadu datrysiadau cyfrifiadura cwmwl, er enghraifft Microsoft Office 365.
Fodd bynnag, yn y byd TG, sy'n esblygu'n barhaus, ni all y Gwasanaeth fod yn hunanfodlon, ac mae llawer mwy o heriau'n ymwneud â thechnoleg yn ein hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys mabwysiadu datrysiadau pellach yn seiliedig ar gyfrifiadura cwmwl, integreiddio systemau meddalwedd busnes newydd, a gweithredu'r Rhwydwaith Gwasanaethau Brys (ESN), sef rhwydwaith radio a data newydd ar gyfer pob un o'r gwasanaethau 'golau glas' ledled y DU.
Yn rhinwedd eich rôl fel ein Pennaeth TGCh llawn-amser newydd, byddwch yn rheoli ac yn gwella'r adran TGCh bresennol, ac yn chwarae rhan ddylanwadol wrth ddatblygu a gweithredu ein Strategaeth TGCh ar gyfer y dyfodol.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle rhagorol i unigolyn TGCh proffesiynol, craff a dyfeisgar weithio i sefydliad sector cyhoeddus uchel ei barch, sy'n croesawu technoleg ac yn annog arloesedd. Rhaid i ymgeiswyr posibl feddu ar brofiad rheoli blaenorol mewn amgylchedd TG, gwybodaeth gadarn am dechnolegau TG cyfredol a newydd, yn ogystal â'r gallu i ddatblygu a gweithredu amcanion TGCh strategol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu rhaglenni diogelwch cyhoeddus ac ymateb i argyfyngau ym mron dwy ran o dair o Gymru. Mae'r sefydliad yn cyflogi dros 1,300 o aelodau o staff, ac mae ei bencadlys yng Nghaerfyrddin.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth Adnoddau Corfforaethol, Iwan Cray ar 01267 226807.
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gweler y fanyleb person, y swydd ddisgrifiad, y ffurflen gais a'r canllawiau cais sydd ynghlwm.
Ar ôl ei llenwi, rhaid dychwelyd y ffurflen gais at Miss Danielle Phillips, yr Adran Adnoddau Dynol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Pencadlys y Gwasanaeth, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin, SA31 1SP (dm.phillips@mawwfire.gov.uk), erbyn 1630 ar 18 Ebrill 2018, fan hwyraf.