Cwrs Chwyldro ar gyfer Gyrwyr Ifanc
Mae'r Cwrs Chwyldro yn gwrs hyfforddi undydd sy'n anelu at addysgu gyrwyr ifanc rhwng 15 a 25 oed am neges Diogelwch ar y Ffyrdd y Pump Angheuol, sy'n cynnwys:
• Pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch
• Effeithiau cyffuriau ac alcohol wrth yrru
• Y defnydd o ffonau symudol a diogelwch ffonau
• Effaith teithwyr eraill yn tynnu eich sylw
• Ymwybyddiaeth o oryrru
• Cymorth Cyntaf Brys
Mae'r hyfforddwr profiadol yn defnyddio cyflwyniad PowerPoint rhyngweithiol, rhithwirionedd 360 ymdrwythol, astudiaethau achos a modiwlau ymarferol i ddarparu ar gyfer pob arddull dysgu.
DYDDIADAU’R CWRS
Mehefin 22ain Gorsaf Dân Aberteifi
Gorffennaf 20fed Gorsaf Dân Llandrindod
Medi 7fed Gorsaf Dân Hwlffordd
Hydref 19eg Gorsaf Dân Caerfyrddin
Tachwedd 30ain Gorsaf Dân Port Talbot
Ionawr 11eg 2020 Gorsaf Dân Gorseinon
AMSER
9.30 -15.30
Caniateir uchafswm o ddeg cynrychiolydd fesul sesiwn, a dyrennir lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin.
ARCHEBWCH NAWR
I archebu lle ar y Cwrs Chwyldro, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn revolutions@mawwfire.gov.uk
