Mae Gwasanaeth Tân ac
Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dymuno Nadolig Llawen a Diogel i chi ar
gyfer 2019
Gall yr adeg hon
o'r flwyddyn fod yn brysur iawn, gyda llawer i'w wneud a'i drefnu i sicrhau
eich bod chi a'ch teulu yn cael gwyliau hyfryd a gorffwysol. Mae yna anrhegion
i'w lapio, coed i'w haddurno, bwyd i'w goginio a phartïon i'w
trefnu. Hoffem ni yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
sicrhau nad ydych yn ychwanegu unrhyw straen diangen! Felly, ar 1 Rhagfyr,
byddwn yn lansio ein Hymgyrch Diogelwch dros y Nadolig. Bydd yr ymgyrch yn rhoi
cyngor a chanllawiau ar ddiogelwch i chi, yn ogystal â
nodynnau atgoffa ar gyfer eich calendr, oll wedi'u cynllunio i'ch cadw chi a'ch
teulu yn ddiogel yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig ac wedi hynny.
Cadwch lygad am
ein Coblyn Nadolig ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. #coblyncarcus #blegoblyn
Yn ysbryd y
Nadolig, byddwn hefyd yn cynnal cwis yn ystod yr ymgyrch, lle bydd gennych
gyfle i ennill seinydd Sonos (wedi'i roi gan Lets Connect https://www.lets-connect.co.uk/).
Bydd rhagor o
fanylion am y cwis yn dilyn ... ond awgrymwn eich bod yn cadw llygad ar ein
negeseuon diogelwch dyddiol yn y cyfamser!

Bydd rhagor o fanylion am y cwis yn dilyn ... ond awgrymwn eich bod yn cadw llygad ar ein negeseuon diogelwch dyddiol yn y cyfamser!