Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Objective 9 - To invest in our people.​​

Beth yw'r sefyllfa bresennol?
Yn 2015 enillodd y Gwasanaeth wobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl a’i nod yw cynnal y lefel hon o achrediad. Mae gennym fframweithiau ar waith i sicrhau bod y broses o gaffael, defnyddio a chynnal sgiliau a chymwyseddau yn cael ei mesur yn gywir.

Rydym yn falch bod ein cyflogeion yn cyflawni cymwysterau sy’n gyson â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar draws safonau proffesiynol.

Ar ddechrau 2015 gwnaethom gynnal Archwiliad Diwylliannol a roddodd adborth hanfodol gan ein cyflogeion ynghylch proses yr Adolygiad Datblygu Unigol a sut mae hyn yn cefnogi anghenion datblygu unigol a sefydliadol. 

Rydym wedi croesawu’r dull e-ddysgu newydd sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ategu unrhyw anghenion dysgu a datblygu a nodwyd.

Beth rydym yn bwriadu ei wneud a pham?
Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • ​Ystyried deddfwriaeth gyfredol a deddfwriaeth sy’n dod i’r golwg sy’n effeithio ar y gwasanaethau a ddarparwn, yn enwedig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cydraddoldeb 2010.
  • Sicrhau bod gan ein holl staff y sgiliau a’r wybodaeth gywir i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl.
  • Rhoi’r offer a’r cyfleoedd datblygu gorau posibl i’n staff i sicrhau diogelwch ein cyflogeion a’r cymunedau a wasanaethant.
  • Cynnal a gwella ein llwyddiant Buddsoddwyr mewn Pobl i sicrhau bod rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn cydnabod yr ymrwymiad a wnawn i bobl a datblygiad sefydliadol;
  • Adolygu ein Llwybrau Datblygu Sefydliadol i sicrhau eu bod yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu effeithiol ac effeithlon.
Sut a phryd y byddwn yn cyflawni hyn?
Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • ​Ymgorffori diwylliant dysgu a fydd yn diwallu anghenion presennol ein Gwasanaeth a’n hanghenion yn y dyfodol fel rhan o’r broses o loywi ein Llwybrau Strategol a mireinio ein proses Adolygu Datblygiad Unigol yn ystod 2017/2018.
  • Archwilio pob cyfle i ddysgu o’n partneriaid a’n rhanddeiliaid a chydweithio â nhw (yn ystod 2017/2018).
  • Sicrhau bod ein swyddogaeth ymchwil a datblygu yn edrych y tu hwnt i Sector Tân y DU ar gyfer atebion arloesol yn y dyfodol; proses barhaus dros y 5 mlynedd nesaf.
  • Sicrhau bod sgiliau a chymwyseddau Critigol i Risg yn adlewyrchu’n gywir broffiliau risg ein cymunedau fel rhan o Amcan 4 a 6 yn 2016/2017.
Sut byddwn yn mesur llwyddiant? 
Byddwn yn gwneud y canlynol:
  • ​Archwilio’r Matrics Sgiliau Critigol i Risg a’r broses Adolygu Datblygiad Unigol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion yn cynnwys cysylltiadau â’r llwybrau sefydliadol.
  • Defnyddio’r Fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl i werthuso effaith hyfforddiant personol yn y sefydliad.
  • Defnyddio proses werthuso i ddangos sut y gwnaethom ddefnyddio arloesedd i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer ein cymunedau. 
  • Defnyddio gwybodaeth fusnes i lywio gwelliannau o ran Ymateb Brys a Diogelwch Cymunedol.
Beth fydd hyn yn ei olygu i chi? 
  • ​Gwell boddhad swydd a morâl ymhlith cyflogeion.
  • Gweithwyr mwy brwdfrydig a fydd yn ei dro yn gwella cynhyrchiant.
  • Cyflogeion sy’n gwybod eu bod yn gymwys ac felly’n teimlo’n fwy hyderus ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
  • Lleihad mewn trosiant cyffredinol cyflogeion a llai o absenoldebau.
  • Cyflogeion y mae angen llai o oruchwyliaeth arnynt a chyfarwyddiadau llai manwl.
  • Cyflogeion sydd mewn gwell sefyllfa i addasu i newidiadau a heriau.
  • Delwedd well i’r Gwasanaeth wrth i gyflogeion deimlo bod hwn yn lle da i weithio.
Pa nodau Lles yn amcan hwn alinio i?​