 |
Paul Bates
Dirprwy Brif Swyddog Tân
Yn ogystal â bod yn ddirprwy i'r Prif Swyddog Tân, mae Paul yn Gyfarwyddwr Datblygu sy'n gyfrifol am Gynllunio Strategol a Pherfformiad, Datblygu Pobl a'r Gyfundrefn, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu Corfforaethol a'r Iaith Gymraeg.
Ef yw arweinydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (Cymru) ar Rheoli Risg ac ef yw cadeirydd Elusen y Diffoddwyr Tân yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru; gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ers 1989.
Cychwynnodd Paul ar ei yrfa gyda Brigâd Dân Swydd Lincoln, fel diffoddwr tân wrth gefn, yn 1983, gan wasanaethu yn Market Rasen. Ymunodd â'r gwasanaeth llawn amser yn Ebrill 1985, gan wasanaethu yng ngorsafoedd tân Gainsborough, Boston a Spalding. Symudodd i Frigâd Dân Powys ym 1992, wedi iddo gael ei ddyrchafu'n Swyddog Gorsaf yn Aberhonddu.
Yn dilyn yr aildrefnu ym 1996, a welodd Frigadau Tân Powys, Sir Ddyfed a Gorllewin Morgannwg yn uno, cafodd Paul ei benodi i rôl Swyddog Rhanbarthol Cynorthwyol oddi fewn i Adran Adolygu Perfformiad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a ffurfiwyd o'r newydd, ac o ganlyniad cafodd ei ddyrchafu'n Swyddog Rhanbarthol ym mis Rhagfyr 1997 oddi fewn i'r un adran. Ym mis Mawrth 2000, symudodd i rôl Swyddog Cymorth Technegol a chafodd ei ddyrchafu eto i Swyddog Rhanbarthol graddfa II. Yn 2004, ymgymerodd â secondiad llwyddiannus gyda Thîm Cynghori Rheoli Risg Tân y Llywodraeth, ac yna cafodd ei ddyrchafu'n Rheolwr Ardal gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fel Pennaeth Rheoli Risg Weithredol.
Cafodd Paul ei benodi'n Brif Swyddog Tân Cynorthwyol yn 2009, gyda chyfrifoldeb am risg drefniadaethol, cyn iddo gael ei ddyrchafu'n Ddirprwy Brif Swyddog Tân yn 2011.
Mae Paul yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân, mae'n aelod o Sefydliad y Peirianyddion Tân ac mae ganddo Radd Feistr Weithredol mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Cymru.
Mae Paul yn briod, mae ganddo un ferch yn ei harddegau ac mae'n byw ym Mhen-bre.
|