www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Aelodau'r Bwrdd Gweithredol

Phil Coleman

Dirprwy Brif Swyddog Tân


Ymunodd Phil â Gwasanaeth Tân Swydd Amwythig ym 1979, a gwasanaethodd yn Amwythig a Telford yn yr adrannau gweithrediadau, hyfforddiant a diogelwch rhag tân, cyn symud i Bowys ym 1989 fel Swyddog Gorsaf. Cafodd ei ddyrchafu'n Swyddog Rhanbarthol Cynorthwyol, gyda gofal dros ardal y Gogledd, ac yna i swydd Uwch Swyddog Atal Tân ym 1994. Symudodd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru ym 1996, fel Uwch Swyddog Diogelwch Rhag Tân, cyn treulio 3 mlynedd fel Rheolwr Ardal y Gorllewin. Ers 2003, bu ef yn Bennaeth Rheoli Risg yn y Gymuned, nes iddo ymgymryd â'i swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Datblygiad yn 2008. Mae ei rôl bresennol yn cwmpasu swyddogaethau Cynllunio Strategol a Pherfformiad a Datblygiad Personol a Threfniadaethol (yn ymgorffori Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu)y Gwasanaeth.

Mae Phil yn briod gyda dau o blant a dau ŵyr. Mae'n byw ym Mhontlliw ac mae'n mwynhau'r mwyafrif o chwaraeon, yn enwedig pêl-droed, golff a rygbi. Mae'n gefnogwr brwd o gl?b pêl-droed Lerpwl, sy'n achosi gwrthdaro o bryd i'w gilydd gyda nifer o'u brif swyddogion!


 

Richard Smith
Prif Swyddog Tân
Phil Coleman
Dirprwy Brif Swyddog Tân
Elizabeth Aitken
Prif Swyddog Cynorthwyol
Paul Bates
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
Wyn Edwards
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
   
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service