 |
Wyn Edwards
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
Y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Wyn Edwards, 46, yw'r Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaeth, gyda chyfrifoldeb strategol am y chwe Ardal Reoli Sirol a'r Ganolfan Reoli Tân. Ymunodd â Brigâd Dân Dyfed ym 1983, a bu'n gwasanaethu mewn amryw o leoliadau ar draws Dyfed, yn cynnwys fel Pennaeth Gwylfa yn Noc Penfro a Llanelli a Phennaeth Gorsaf yn Aberystwyth. Pan ad-drefnwyd Gwasanaethau Tân Cymru ym 1996, symudodd i'r adran diogelwch rhag tân yn Llanelli ac, o ganlyniad, bu'n gweithio mewn gwahanol rolau, yn cynnwys Prosiect y Flwyddyn 2000, Gwerth Gorau, Gwasanaethau Technegol, Iechyd a Diogelwch ac fel Rheolwr Sirol Cynorthwyol.
Yn 2003, cafodd ei secondio i Arolygiaeth Gwasanaeth Tân Ei Mawrhydi, i weithio fel ymgynghorydd i Wasanaethau Tân ac Achub ledled Lloegr a Chymru. Wedi dychwelyd, ymgymerodd â swyddi Pennaeth Rheoli Risg Weithredol, Rheolwr Sirol Abertawe a Phennaeth Argyfyngau Sifil a Chydnerthu.
Mae Wyn yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân, ef hefyd yw ysgrifennydd Cymdeithas Chwaraeon ac Athletau'r Gwasanaeth ac mae'n aelod gweithgar o Gymdeithas Chwaraeon ac Athletau'r Gwasanaeth Tân cenedlaethol.
Graddiodd Wyn o'r Brifysgol Agored gyda Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) mewn Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth ym 1999. Ganwyd, magwyd ac addysgwyd Wyn yn Llanelli ac mae'n dal i fyw ger Llanelli, gyda'i wraig a'i fab bach. Mae ei hobïau'n cynnwys chwaraeon moduro, badminton, sboncen a beicio.
|