 |
Chris Davies
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
Ymunodd Chris â Gwasanaeth Tân De Morgannwg ym 1984, a bu'n gwasanaethu yng ngorsafoedd Caerdydd, Trelái, Y Rhath a'r Eglwys Newydd, fel diffoddwr tân ac fel Swyddog. Yn 1992 symudodd i Ddiogelwch Rhag Tân, ble'r oedd yn gyfrifol am Westai a Chartrefi Gofal Preswyl.
Wedi ad-drefnu Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru ym 1996, cafodd Chris y cyfle i gael ei secondio i Goleg y Gwasanaeth Tân am dair blynedd, fel Swyddog Rhanbarthol Cynorthwyol, yn gweithio oddi fewn i'r cyfleuster Gorchymyn a Rheoli.
Wedi dychwelyd i Dde Cymru yn 2000, cafodd ei benodi'n Swyddog Cynllunio at Argyfwng, ac yna'n fuan wedyn daeth yn Bennaeth Cymorth Risg Weithredol. Yna, cafodd gyfle arall i gael ei secondio gyda phrosiect Dimensiwn Newydd y Llywodraeth, gyda chyfrifoldeb am weithredu'r cyfarpar dadheintio torfol yng Nghymru gyfan.
Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd Chris gyfle i reoli un o'r sectorau yn y digwyddiad ym mhurfa Buncefield am dri diwrnod, gyda chyfrifoldeb am reoli lleoliad tanau a'r gofynion cyflenwi logistaidd ar gyfer 14 o Bympiau Cyfaint Uchel.
Wedi dychwelyd i'r Gwasanaeth ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi'n Ddirprwy Reolwr Rhanbarthol yn Adran y De o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac yna aeth ymlaen i fod yn Bennaeth Diogelwch yn y Gymuned. Yn 2008 symudodd i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fel Pennaeth Corfforaethol Lleihau Risg yn y Gymuned, gyda chyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â diogelwch rhag tân i fusnesau a'r gymuned.
Yn 2011 cafodd Chris ei benodi'n Brif Swyddog Tân Cynorthwyol, Cyfarwyddwr Risg.
Mae Chris yn aelod gweithgar o'r CFOA, mae'n cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru ar Fwrdd Seinio'r Aelodau a hefyd mae'n gadeirydd ar bwyllgor Lleihau Risg yn y Gymuned Cymru gyfan. Yn ogystal, mae gan Chris radd Feistr mewn Gweinyddu Busnes.
Mae gan Chris ddau fab ac mae'n byw yn y Mwmbwls, Abertawe.
|