www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cynllunio ein Gwasanaethau
Mae angen i bob sefydliad i gynllunio ar gyfer y dyfodol, er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o gyflawni eu nodau. Nid yw cynllunio busnes yn newydd i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd bob amser wedi bod yn awyddus i fireinio a rhannu ei nodau strategol.

Yng ngoleuni’r pwysedd parhaus ar y sector cyhoeddus i wella effeithlonrwydd, mae’r broses gynllunio’n bwysicach nag erioed fel mecanwaith i adnabod sut y gellir cynnal a gwella’r modd mae’r gwasanaeth yn cael ei gyflawni, mewn hinsawdd o adnoddau prin neu gyfyngedig.

Mae ein cynlluniau lleihau risg yn amlinellu datganiadau o weledigaeth a chenhadaeth yr Awdurdod Tân, ynghyd â nodau strategol ar gyfer y Gwasanaeth a’i swyddogion, i ddarparu gwasanaeth effeithlon, effeithiol a diwastraff ar gyfer cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac un sy’n ymatebol i’w anghenion. Yn yr adrannau isod nodir y nodau a’r ymarferion cynllunio a fabwysiadwyd gan y sefydliad. Caiff cynlluniau eu cyhoeddi, a gellir eu gweld oddi fewn i Adran Dogfennau’r wefan hon.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar sut all y Gwasanaeth wella’i wasanaethau, ffoniwch Bencadlys y Gwasanaeth Tân ar 0370 6060699, a gofynnwch am yr Adran Cynllunio Strategol a Pherfformiad, a fydd yn fwy na bodlon cymryd eich galwad.

Cliciwch yma i weld amrywiaeth o gynlluniau cyfredol




© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service