Pwmp Achub
Mae Pympiau Achub wedi cael eu cyflwyno fel rhan o ymrwymiad y Gwasanaeth at ei Gynllun Lleihau Risg parhaus. Dyluniwyd y pympiau achub i gludo amrywiaeth eang o offer hydrolig ac achub niwmatig.
Mae’r offer hwn yn rhoi gallu uwch a mwy buan i’r diffoddwyr tân i ymdrin â damweiniau ffordd difrifol, yn ogystal â chynnal a gwella'r moddau traddodiadol o ymdrin â thanau. Mae’r offer ychwanegol a gludir yn cynnwys;
- Offer achub hydrolig gwaith trwm.
- Unedau codi niwmatig.
- Offer winsio trydanol a mecanyddol.
|
 |
| |
|
Ysgolion Dŵr
Peiriant diffodd tân holl-bwrpas yw ysgol ddŵr. Maent yn cludo hyd at 6 diffoddwr tân, ac fel arfer maent yn cynnwys:
- Pwmp aml bwysedd.
- System rîl pibell pwysedd uche
- Tanc dŵr 1800 litr.
- 4 set o offer anadlu.
- Amrywiaeth fawr o offer cynorthwyol, yn cynnwys offer cynhyrchu ewyn, pibell a changhennau diffodd tân ac offer cymorth cyntaf.
- Mae’r peiriannau’n cludo offer arbenigol, h.y. camerâu delweddu thermol, offer achub hydrolig a ffannau awyru pwysedd positif.
|


|
| |
|
Platfform Achub Awyrol
Mae Pympiau Achub Awyrol (ARP) wedi eu cyfarparu i fanyleb pwmp achub, ac maent yn medru cyflawni’r holl rolau a ddisgwylir gan Bwmp Achub safonol, tra’n darparu gallu peiriant awyrol integredig. Bydd yr ARP yn cael ei fobileiddio i’r holl ddigwyddiadau y byddai Tender Ddŵr neu Bwmp Achub yn eu mynychu fel arfer, a bydd yn cael ei fobileiddio i ddigwyddiadau ble bod angen peiriant estyn yn uchel.
|
 |
| |
|
Uned Achub â Rhaffau
Caiff yr uned achub â rhaffau ei chriwio gan dîm o weithredyddion achub â rhaffau cymwys ac atebol. Pwrpas pennaf yr uned yw darparu system i achub personél y gwasanaeth tân os ydynt yn mynd yn sownd neu’n analluog wrth iddynt weithio ar uchder.
Hefyd, mae’r uned yn darparu gallu achub i alluogi gweithredyddion hyfforddedig i gael mynediad i leoedd cyfyng neu anodd ac i gyflawni gwaith achub ar uchder.
|
 |
| |
|
Uned Bad Achub
Gellir defnyddio Unedau Bad Achub i achub o ddyfrffyrdd mewndirol ac arfordirol penodol, fe’u defnyddir hefyd i ddarparu ar gyfer diogelwch criwiau sy’n gweithio ar neu gerllaw dŵr.
Gellir galw ar fadau achub y gwasanaeth i’w defnyddio unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnodau o lifogydd mawr. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio badau chwyddadwy, gyda naill ai cragen anhyblyg neu hyblyg. Mae unedau bad yn cynnwys bad, trelar a cherbyd tynnu. Mae’r unedau’n cludo amryw o eitemau o offer achub o ddŵr ar eu bwrdd, a ellid eu hategu gan offer a gludir o unedau achub arbennig eraill.
|
 |
| |
|
Platfform Ysgol Awyrol
Mae rôl y peiriant hwn yn amrywio o achub awyrol i ddarparu twr dŵr i ddiffodd tanau, neu blatfform arsylwi ar gyfer dibenion rheoli ac arolygu. Yn ogystal, mae’n medru darparu platfform sy’n gweithio islaw lefel y ddaear, er mwyn medru achub o afonydd neu ffosydd ayb. Mae’r peiriant yn cynnwys trawstiau a weithredir yn hydrolig a chawell achub mawr.
|
|
| |
|
Uned Reoli
Caiff yr Uned Reoli ei mobileiddio i ddigwyddiadau mawr o natur faith. Mae’n rheoli’r holl gyfathrebu ar safle’r digwyddiad ac mae’n darparu pwynt cyswllt sengl ar gyfer ein Canolfan Reoli. Mae yna ardal o fewn yr uned i’r Rheolwr Digwyddiad i friffio’r swyddogion tân ac achub ac i drafod gyda swyddogion a chynrychiolwyr o wasanaethau eraill.
|
 |
| |
|
Uned yr Amgylchedd
Mae Uned yr Amgylchedd yn medru cludo amrywiaeth ymgyfnewidiol o offer cefnogi digwyddiad. Rôl bennaf y peiriant yw atal niwed i’r amgylchedd a chynorthwyo gyda gweithrediadau arbed mewn digwyddiadau. Mae’r offer a gludir fel arfer yn cynnwys:
- Gwactodau gwlyb gwaith trwm.
- Pympiau suddadwy.
- Deunydd amsugnol.
|
|