
Neges y Prif Swyddog Tân
Croeso i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Bydd y Prif Swyddog Tân Newydd, Richard Smith, yn ymgymryd â’i swydd newydd ar Ddydd Llun yr 16eg o Fehefin. Cafodd Richard, sy’n hanu’n wreiddiol o Halifax yng Ngorllewin Swydd Efrog, ei benodi gan Aelodau Etholedig o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ym mis Ebrill. Mae Richard wedi gwasanaethu fel Dirprwy Brif Swyddog Tân ar Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ers 2003. Wrth sôn am ei benodiad dywedodd:
"Rydw i wrth fy modd o gael fy mhenodi’n Brif Swyddog Tân ar sefydliad mor ardderchog, ac edrychaf ymlaen at helpu i siapio dyfodol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â bod yn ymrwymedig i wneud ein holl gymunedau’n lleoedd mwy diogel i fyw ac i weithio ynddynt.”
Ymunodd Richard â’r Gwasanaeth Tân yn Swydd Gaerhirfryn ym 1978, ac wedi iddo gael ei ddyrchafu’n Is Swyddog, symudodd yn rheng Swyddog Gorsaf i Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Warwig ym 1986. Yn ystod ei gyfnod yn Swydd Warwig, bu’n gwasanaethu yn nifer o swyddi nes iddo ddod yn Swyddog Adrannol Cynorthwyol a Phennaeth Gorsaf yng Ngorsaf Dân Nuneaton. Ymunodd Richard â Gwasanaeth Tân Swydd Gaerlleon fel Swyddog Adrannol ym 1991, ac yn ystod ei amser gyda Swydd Gaerlleon, bu’n gwasanaethu fel Swyddog Adrannol mewn gwahanol swyddi yn yr adrannau Hyfforddiant, Gweithrediadau a Phersonél. Cafodd Richard ei ddyrchafu’n Uwch Swyddog Adrannol yn 2000, gyda chyfrifoldeb corfforaethol dros Bersonél a Hyfforddiant, a symudodd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru ym mis Gorffennaf 2003, fel Dirprwy Brif Swyddog.
Mae Mr Smith yn briod gyda phedwar o blant, ac mae ei ddiddordebau’n cynnwys cadw’n heini, pêl-droed a darllen. Roedd tad Richard yn Swyddog gyda’r Gwasanaeth Tân ym Mangor, ac ar hyn o bryd mae ei frawd Simon yn Brif Swyddog Tân ar Wasanaeth Tân Gogledd Cymru. Felly mae’n parhau gyda thraddodiad teuluol cryf o wasanaethu gyda Brigadau Tân Cymru. Mae’n meddu ar Radd Feistr mewn Rheolaeth, ac mae wedi bod yn Aelodau o Sefydliad y Peirianyddion Tân ers bron i 20 mlynedd, yn ogystal mae’n weithgar oddi fewn i Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân, lle mae’n arweinydd cenedlaethol ar ddeddfwriaeth diogelwch tân.
Fe wnaeth ei ragflaenydd yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Douglas Mackay, longyfarch Richard Smith ar ei benodiad a dywedodd:
“Rwy’n dymuno’r gorau i fy olynydd Richard Smith, ac rwy'n gwybod ei fod yn benderfynol o barhau a datblygu ymhellach y cynnydd mae’r Gwasanaeth wedi’i gyflawni eisoes.”
Wrth sôn am benodi Richard Smith, dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Collin Crowley:
"Mae Richard Smith wedi dangos rhinweddau arwain ardderchog wrth weithio gyda’r Awdurdod dros y 4½ mlynedd diwethaf, ac rwy’n sicr y bydd yn parhau i roi cyngor a chyfarwyddyd ardderchog i’r Aelodau fel Prif Swyddog Tân.”