www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Executive Board Members

Richard Smith

Prif Swyddog Tân


Wedi ymuno â’r Gwasanaeth Tân yn Swydd Gaerhirfryn ym 1978, bu Richard yn gwasanaethu yng Ngorsafoedd Tân Blackburn, Caerhirfryn a Preston, cyn symud i Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Warwig ym 1986 fel Swyddog Gorsaf. Yno bu’n gwasanaethu fel Dirprwy i Swyddog Hyfforddiant y Gwasanaeth, cyn dod yn bennaeth ar Orsaf Dân Leamington Spa, a chafodd ei ddyrchafu yn Bennaeth Ardal gyda gofal dros Orsafoedd Tân Nuneaton a Bedworth o 1990 ymlaen.

Wedi iddo dderbyn dyrchafiad symudodd i Frigâd Dân Swydd Gaerlleon ym 1991, a bu Richard yn gweithio yn yr adrannau Gweithrediadau, Hyfforddiant ac AD cyn dod yn Uwch Swyddog Personél a Hyfforddiant y Frigâd yn 2000. Symudodd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn 2003, fel Dirprwy Brif Swyddog Tân, ac erbyn hyn mae’n Gyfarwyddwr Polisi a Chynllunio’r Gwasanaeth.

Mae’n aelod gweithgar oddi fewn i Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân, a Richard yw’r arweinydd cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â diogelwch tân deddfwriaethol, ac mae’n eistedd ar amryw o bwyllgorau Iechyd a Diogelwch cenedlaethol. Mae Richard yn briod gyda phedwar o blant.


 

Richard Smith
Prif Swyddog Tân
Phil Coleman
Dirprwy Brif Swyddog Tân
Elizabeth Aitken
Prif Swyddog Cynorthwyol
Paul Bates
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
Wyn Edwards
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
   
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service