www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Executive Board Members

Philip Bailey

Dirprwy Brif Swyddog Tân


Cefais fy mhenodi’n Brif Swyddog Tân Cynorthwyol ym mis Mehefin 2004. Ar hyn o bryd, fy nghyfrifoldebau yw “darparu cymorth strategol i sicrhau a hwyluso bod y gwasanaeth yn cael ei gyflawni mewn modd effeithlon ac effeithiol, sy’n gyson â’r nodau trefniadaethol”. Rwy’n rhoi cymorth rheoli uniongyrchol i’r chwe Rheolwr Sirol gweithredol, Rheolwr Grŵp y Ganolfan Reoli Tân, y Rheolwr Trafnidiaeth, y Rheolwr Cyf/SG a’r Rheolwr Adeiladau.

Rwyf wedi bod yn gweithio i’r gwasanaeth tân ers 1972, ac mae fy mhrofiad gyda Chanolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys ymgymryd â rolau: Swyddog Cymorth Technegol, Swyddog Gwerth Gorau, Rheolwr Hyfforddiant a Rheolwr Sirol Abertawe cyn ymgymryd â’m swydd bresennol.

Mae fy nghymwysterau academaidd yn cynnwys bod yn Aelod o Sefydliad y Peirianwyr Tân ac ennill Gradd Feistr mewn Gweinyddu Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Warwig.

Rwy’n aelod gweithgar o Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân, ac rwy’n cynrychioli Cymru ar y Gweithgor Logisteg Cymorth Technegol, yn ogystal â hwyluso Grŵp Trafnidiaeth Cymru.

Mae fy ngweithgareddau hamdden / hobïau / mympwyon yn cynnwys y mwyafrif o chwaraeon awyr agored, gyrru fy sbortscar a chefnogi Manchester United.


 

Richard Smith
Prif Swyddog Tân
Phil Coleman
Dirprwy Brif Swyddog Tân
Elizabeth Aitken
Prif Swyddog Cynorthwyol
Paul Bates
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
Wyn Edwards
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
   
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service