www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Ein Cymdeithas
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cwmpasu rhyw 4,500 o filltiroedd sgwâr, ac mae'n cynnwys bron i ddwy ran o dair o dirfas Tywysogaeth Cymru. Mae amrywiaeth eang o risgiau'n bodoli o fewn yr ardal gan amrywio o ddiwydiannau petrogemegol yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, Llansawel a Chastellnedd, i'r risgiau sy'n gysylltiedig â chytrefi sy'n drwchus eu poblogaeth megis Abertawe, Port Talbot a Llanelli. Ceir yna gymuned ffermio fras a llawer o ddiwydiannau ysgafn eraill ar draws yr ardal. Mae'r rhain, ynghyd â'r morlun helaeth a'r dyfrffyrdd mewndirol, yn rhai o'r risgiau arbenigol o fewn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ers mis Ebrill 2003, trefnwyd y Gwasanaeth i chwe Ardal Reoli Sirol, un yr un i gwmpasu ardaloedd awdurdodau unedol:

  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Dinas a Sir Abertawe
  • Castellnedd a Phort Talbot
  • Sir Benfro
  • Powys

y Pencadlys gweinyddol canolog yng Nghaerfyrddin, tra y lleolir y Pencadlys Diogelwch Tân a Hyfforddiant canolog yn Nhreforys, Abertawe.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys cymysgedd o orsafoedd llawn amser, criw dydd, wrth gefn a gwirfoddol, cyfanswm o 57 o orsafoedd. Y cyflenwad presennol o staff, yn staff gweithredol a staff cynnal yw oddeutu 1,400.

Mae'r aelodau etholedig yn cael eu henwebu o bob un o'r chwe awdurdod unedol, ac ar y cyd maent yn ffurfio Pwyllgor Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n ymddwyn fel y prif gorff creu polisïau ac mae’n rheoli mabwysiad amrywiol arferion gwaith, yn unol â’r canllawiau statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (Gweler ‘Ein Gwasanaethau’). Mae'r Awdurdod Tân yn cwrdd ar sail chwarterol a chefnogir ei waith gan dri prif Bwyllgor sef, y Pwyllgor Adnoddau, Personél a'r Pwyllgor Adolygu Perfformiad a Pholisi. Mae pob un o'r grwpiau yma'n cwrdd yn rheolaidd i ystyried materion o fewn eu meysydd o gyfrifoldeb.

Ariennir Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n uniongyrchol gan y chwe Awdurdod llywodraeth leol ar sail sy'n gymesur â'u hetholaeth gofrestredig.
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service