www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Ein Gwasanaethau
Caiff y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru a Lloegr ei lywodraethu gan amrywiol ddarnau o ddogfennaeth a chyfarwyddyd rheoleiddio, ond yr unig gyfraith sydd o bwys penodol yw Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (y Ddeddf).

Mae’r Ddeddf yn galw ar bob awdurdod tân i ddarparu ar gyfer dibenion diffodd tanau, sy’n golygu nid yn unig diffodd tanau ond diogelu bywydau ac eiddo mewn achos o dân yn ogystal. Hefyd, mae’n darparu ar gyfer mynychu gwrthdrawiadau ar y ffordd ac argyfyngau eraill, yn ogystal â darparu sylfaen statudol i ymgymryd â gweithgareddau diogelwch yn y gymuned.

Cafodd y cyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ei ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn unol â’r Ddeddf, mae’r Cynulliad wedi cynhyrchu Fframwaith Cenedlaethol, sy’n amlinellu blaenoriaethau ac amcanion Awdurdodau Tân ac Achub ac mae’n cynnwys canllawiau i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau.

Yn unol â’r ddogfen fframwaith, mae’n rhaid i bob Awdurdod Tân ac Achub i gynhyrchu cynllun lleihau risg. Rhaid i’r cynlluniau ffocysu ar risgiau cymunedol a chorfforaethol mewn ffordd gyfannol. Mae’n lasbrint o sut y byddwn yn rheoli risg o fewn ein hardal. Mae’n rhaid i amcanion y cynllun lleihau risg fod yn gysylltiedig ag amcanion y Cynulliad i leihau marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i dân a gwrthdrawiadau ar y ffordd.

Cynllunio i Leihau Risg

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (PDF, 760kb)

Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (on www.communities.gov.uk)

© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service