

1. Mae llosgdanau yn ffactor gynyddol bwysig o ran colledion tân ac mae adeiladau diwydiannol a masnachol yn dargedau amlwg i losgdanwyr. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn edrych ar losgdanau fel trosedd yn erbyn eiddo yn hytrach na'r person ac y bydd y cwmni yswiriant yn talu, mae'r colledion sy'n deillio o losgdanau yn fwy na rhai ariannol, gan y gallant hefyd gynnwys:
Marwolaethau ac anafiadau i staff a diffoddwyr tân.
Tarfu ar fusnes, neu hyd yn oed gau'r cwmni.
Colli swyddi.
Y gymunedau yn colli cyfleusterau neu amwynderau.
Yr awyr yn cael ei lygru gan fwg, a'r posibilrwydd y gallai dwr gael ei lygru oherwydd y goferiad o waith diffodd y tân.
Colli ein treftadaeth ddiwydiannol.Paratowyd y daflen wybodaeth hon er mwyn helpu rheolwyr cwmnïau y gall eu hadeiladau fod mewn perygl. Mewn unrhyw gwmni gall agwedd ddi-hid at reolaeth atal tân a diwylliant diogelwch tân gwael ychwanegu'n sylweddol at y perygl o ddioddef llosgdân, yn ogystal â thanau damweiniol.
Os y gweithredir yr egwyddorion a'r argymhellion yn y daflen wybodaeth hon yn iawn, gellir lleihau'n sylweddol nifer, difrifoldeb a chost ymosodiadau llosgdanau.
2. Dengys ystadegau fod y rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu rhybuddio neu eu harestio am losgdanau yn ddynion a'u bod rhwng 10-14 oed. Caiff llawer o losgdanau mewn adeiladau diwydiannol a masnachol eu cynnau gan bobl ifanc sy'n manteisio ar gyfle ar y pryd neu sy'n ceisio dinistrio tystiolaeth mân droseddau. Mae llosgdanau bwriadol gan aelodau'r gweithlu yn llawer prinnach. Trydydd perygl yw'r tanau a gynheuir gan ymwelwyr, yn enwedig felly aelodau'r cyhoedd, wrth ymweld â siopau ac adeiladau adwerthu eraill.
Mae'r tanau a gynheuir gan blant yn aml yn cael eu cychwyn mewn bagiau sbwriel ac yn lledu'n danau llawer mwy i gerbydau, cytiau ac adeiladau allan ac weithiau i adeiladau mwy. Felly, dylai rheolwyr adeiladau fod yn effro i'r peryglon hyn ac ail-edrych ar eu camau diogelwch cyn gynted ag y clywant am unrhyw danau bychain yn cael eu cynnau ar eu stâd ddiwydiannol, parc busnes neu gymdogaeth.
3. Dengys ystadegau fod 68% o losgdanau ac 84% o losgdanau 'mawr' (sef y rhai sy'n creu difrod gwerth mwy na £50 000) yn digwydd yn ystod tywyllwch.
Dywedwyd fod goleuadau diogelwch yn ffordd gost-effeithiol o leihau nifer y llosgdanau. Mewn rhai adeiladau mae goleuadau o'r fath yn gallu cael eu rheoli gan synwyryddion isgoch goddefol sy'n gallu creu elfen o syndod, yn ogystal â bod yn fwy derbyniol mewn ardaloedd poblog.
Mae gwneud y llosgdanydd yn weledol hefyd yn elfen bwysig mewn mathau eraill o ragofalon diogelwch. Er enghraifft, mae ffensus palisâd neu rwyllog yn well na wal neu ffens solet, gan fod rheiny'n aml yn golygu nad yw'r sawl sydd wedi torri i mewn i'w gweld o'r tu allan.
Mae llosgdanau hefyd yn digwydd adeg egwylion te neu ginio, pan mai ychydig o staff sydd o gwmpas, gan fod hynny eto'n lleihau'r tebygrwydd y caiff y llosgdanydd ei weld.
4. Gellir lleihau'r perygl o losgdanau a gellir rheoli eu heffeithiau os y meddylir ymlaen llaw am y bygythiadau posib ac os y cymerir camau ataliol effeithiol. Dylid cynnal asesiad risg llosgdanau fel rhan o'r trefniadau asesiad risg tân sy'n ofynnol gan Reoliadau Rhagofalon Tân (Gweithle) 1997, a'r newidiadau a wnaed yn 1999. Gan fod llosgdanau mor gyffredin, mae ymarferiad o'r fath yn elfen hollbwysig o'r asesiad risg tân sy'n ofynnol gan y rheoliadau hyn, hyd yn oed os y cyflwynwyd tystysgrif tân ar gyfer yr adeilad gan y frigâd dân.
Dylai'r cynllun yn erbyn llosgdanau fod yn rhan o gynllun rheoli integredig sy'n cynnwys pob elfen o risg. Y nod yw fod gwaith ac effeithiolrwydd y busnes yn parhau waeth beth fo'r bygythiad a wynebir.
Bydd y cynllun rheoli i fynd i'r afael â llosgdanau yn cynnwys yr elfennau canlynol:
Yr asesiad risg ar gyfer llosgdanau.
Camau diogelwch.
Camau atal tân goddefol a gweithredol.
Trefniadau rheolaeth ar gyfer atal tanau.
Trafodir y bedair elfen hon yn yr adrannau sy'n dilyn.
5. Gellir cynnal asesiad risg ar gyfer llosgdanau mewn sawl ffordd. Y brif ystyriaeth yw fod yr elfennau a allai fod yn gysylltiedig â llosgdanau yn cael eu hystyried mewn modd rhesymegol a threfnus. Dangosir un ffordd o gynnal yr asesiad yn yr Atodiadau amgaeëdig.
Ymhob cwmni dylid gwneud person enwol yn un o'r swyddi uchaf yn gyfrifol am ddiogelwch tân, gan gynnwys gwarchod rhag llosgdanau. Dylai'r person hwn/hon gael hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant ar gynnal yr asesiad risg ar gyfer llosgdanau. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am sicrhau fod y cwmni yn cydymffurfio â ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer tân, mewn rhai cwmnïau gall y person hwn/hon fod yn gyfrifol am faterion iechyd a diogelwch.
Dylai'r asesiad gael ei ysgrifennu a'i adolygu o dro i dro.
6. Mae camau diogelwch effeithiol yn gyfraniad adeiladol at leihau'r perygl o ddioddef llosgdanau. Mae'r camau diogelwch y dylid eu hasesu yn cynnwys:
Diogelu ffiniau'r safle.
Cryfder amlen yr adeilad.
Rheoli mynedfeydd.
Darganfod tresbaswyr.
Goleuadau diogelwch.
Systemau CCTV.
Cysylltiadau â staff.
Gwybodaeth am grwpiau pwyso allai dargedu'r adeilad.Yn aml iawn nid oes gan y bobl sy'n defnyddio adeilad unrhyw reolaeth dros gynllun yr adeilad y maent yn gweithio ynddo. Er hynny, gellir cynnwys sawl elfen yng nghynllun yr adeilad a allai gadw llosgdanwyr draw. Mae'r rhain yn cynnwys gofalu nad oes unrhyw ardaloedd yn yr adeilad ble y gall pobl fod ynddynt heb gael eu gweld a gofalu nad yw tresbaswyr yn gallu cyrraedd to'r adeilad. Hefyd, gellir gwella amgylchedd yr adeilad trwy gynnwys clawdd trwchus, pigog o gwmpas ffiniau'r safle.
Rhaid rhoi blaenoriaeth i gadw tresbaswyr allan yn enwedig pan nad yw'r adeilad yn cael ei ddefnyddio. Rhaid rhoi sylw i elfennau sylfaenol fel lleoliad drysau a ffenestri a gofalu eu bod yn cael eu cloi, cloeon a bolltau ar ffensus a gatiau. Ymhlith y mannau gwan posib o gwmpas ffiniau'r safle mae blychau llythyron, agoriadau awyr a ffenestri lwfrog. Rhaid i'r rhaglen ddiogelwch gynnwys trefn ar gyfer gwybod pwy sy'n gyfrifol am allweddi ac ar gyfer awdurdodi i bwy y dylid rhoi allweddi.
Dylid cadw cofrestr a dylid cyfrif am bob allwedd ar ddiwedd pob cyfnod gwaith.
Rhaid cymryd rhagofalon priodol i adnabod ymwelwyr dilys neu, ble'n briodol, i gyfyngu'r ardaloedd y caiff aelodau'r cyhoedd fynediad iddynt.
Pan fod adeiladau'n wag dros nos neu ar benwythnosau, dylid meddwl o ddifrif am osod offer darganfod tresbaswyr yn ogystal â system synhwyro tân awtomatig. Yn naturiol, bydd y system gyntaf yn darganfod llosgdanwyr yn ogystal â thresbaswyr eraill; gall swn larwm lleol beri i'r tresbaswr adael yr adeilad yn hytrach na chychwyn tân. Dylai systemau larwm gael eu monitro gan ganolfan fonitro ganolog er mwyn sicrhau fod yr heddlu a/neu'r frigâd dân yn cael eu galw yn ddioed. Dylid gosod systemau larwm tân a thresbaswyr yn ofalus er mwyn sicrhau na all y tresbaswyr eu hunain eu dinistrio.
Mae gosod system CCTV yn atal darpar droseddwyr yn effeithiol iawn. Cyfyngedig yw gwerth systemau CCTV nad ydynt yn cael eu monitro. Rhaid i'r offer a ddefnyddir fod o ansawdd uchel a rhaid ei osod mewn modd sy'n gweddu i'r amgylchiadau yn y cylch. Dylai'r systemau hyn gynnwys offer recordio addas. Dylid gofalu eich bod yn cael cyngor arbenigol cyn gosod systemau o'r fath.
Os nad oes presenoldeb 24 awr ar y safle, gall ymweliadau aml ond afreolaidd gan dimau diogelwch symudol y tu allan i oriau gwaith arferol fod yn fodd o atal troseddwyr rhag cynnau llosgdanau a throseddau tebyg.
Efallai mai'r cam mwyaf cost-effeithiol yn erbyn y llosgdanydd yw gweithlu effro a llawn symbyliad. Dylid hyfforddi'r holl staff i herïo diethriaid. Gall cyfarchiad syml 'alla i'ch helpu chi' fod yn ddigon i atal darpar losgdanydd ac mae hefyd yn gwella delwedd y cwmni yng ngwydd ymwelwyr dilys. Yn anffodus, nid yw pob llosgdanydd yn dod oddi allan i'r cwmni ac felly mae gan y rheolwyr ddyletswydd i sicrhau fod yr holl staff a gyflogir ganddynt yn ddibynadwy. Golyga hyn y dylid trefnu ac archwilio geirda ar gyfer yr holl staff newydd a gyflogir. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried staff a all orfod gweithio ar eu pennau eu hunain neu'r tu allan i oriau gwaith arferol. Ni ddylid gadael i staff dros dro a chontractwyr weithio heb unrhyw arolygaeth.
Dylid cyfyngu a monitro mynediad i rannau pellennig neu llai eu defnydd o'r adeilad, megis stordai a warwsau.
Gan fod llosgdanau fel arfer yn dilyn mân ladrata a fandaliaeth, dylai staff fod yn effro a dylent nodi troseddau o'r fath yn y gymdogaeth. Gall cadw cofnod o ddigwyddiadau o'r fath helpu i asesu pa mor debygol ydyw y bydd tân bwriadol yn cael ei gynnau.
Gellir cael cyngor ar gamau diogelwch, defnyddio cwmnïau diogelwch a hyfforddi staff oddi wrth adrannau atal troseddau yr heddlu, yswirwyr, Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Diogelwch a'r Cyngor Cymeradwyo Cenedlaethol ar gyfer Systemau Diogelwch. Hefyd, gellir cael cyngor ar gynllun adeiladau newydd oddi wrth swyddogion cyswllt pensaernïaeth yr heddlu.
7. Mae gan bopeth a wnewch i ddiogelu adeilad rhag tanau damweiniol ran i'w chwarae yn y gwaith o leihau effeithiau tanau sy'n cael eu cychwyn yn fwriadol. Mae'r camau hynny'n cynnwys:
Rhannu'r adeilad yn adrannau tân unigol ac adeiladu a leinio'r adrannau hynny gan ddefnyddio deunyddiau sy'n addas ar gyfer atal effeithiau tân. Gelwir hyn yn ddiogelu tân goddefol.
Darparu offer priodol a chost-effeithiol er mwyn darganfod a diffodd tanau. Gelwir hyn yn ddiogelu tân gweithredol.
Mae diogelu tân goddefol yn seiliedig ar egwyddor cyfyngiant; mae adrannau'r adeilad yn cael eu hadeiladu yn y fath fodd fel ag i olygu, os y digwydd tân, y caiff ei gyfyngu i un rhan o'r adeilad yn unig. Er enghraifft, dylai drysau tân atal mwg a fflamau rhag lledu o gynteddau, tyllau dan grisiau a shafftiau lifft.
Enghraifft arall o ddiogelu tân goddefol yw dyluniad llwybrau dianc, na ddylai gynnwys leinin wal, nenfwd na llawr fflamadwy. Dylai gosod damperi tân mewn pibelli dwr pan eu bod yn mynd drwy waliau adrannau a dylai tyllau mewn waliau o'r fath o gwmpas ceblau a gwasanaethau eraill gael eu cau rhag tân.
Dylai drysau a chaeadau mewn waliau adrannau allu gwrthsefyll effeithiau tân ar gyfer yr un faint o amser â'r waliau eu hunain. Un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin o gychwyn tanau mewn adeiladau yw trwy wthio deunyddiau ar dân neu hylifau fflamadwy trwy'r blwch llythyron. Mae nifer o gynhyrchion perchnogol ar gael sy'n gallu helpu lleihau effeithiau ymdrechion i gynnau tanau yn y modd yma. Natur y dyfeisiau hynny yw cynwysyddion metel dalennog sy'n dal y deunyddiau. Mae rhai o'r cynwysyddion yn cynnwys diffoddydd tân sy'n gweithredu'n awtomatig os y digwydd tân.
Mae systemau atal tân gweithredol yn darganfod neu ddiffodd tân, gyda chwistrellydd tân neu beiriant pwmpio nwy anweithredol yn cyflawni'r naill swyddogaeth a'r llall. Bydd system darganfod tân awtomatig yn darganfod gwres neu gynhyrchion fflamadwy tân ar gychwyn ac yn seinio'r larwm. Fel y dywedwyd ynghynt, dylid monitro systemau o'r fath o hirbell pan nad oes neb yn yr adeilad er mwyn caniatau i'r frigâd dân gael ei galw yn ddioed, gan leihau'r difrod. Bydd system chwistrellu yn rhyddhau dwr o'r offer sydd agosaf at y fflamau ac fe fydd switsus llif yn seinio'r larwm mewn ffordd ddigon tebyg i system ddarganfod gonfensiynol.
Dylid gosod paneli synhwyro a seinio tân ger y drws neu fynedfa y byddai disgwyl i'r frigâd dân ei ddefnyddio pan y cyrhaeddant mewn argyfwng. Y rheswm am hynny yw y byddant yn gallu darparu gwybodaeth bwysig i'r diffoddwyr tân am le y cychwynnodd y tân a sut y lledodd. Gellir archwilio paneli larwm tân ar ôl llosgdân er mwyn rhoi i'r heddlu a'r ymchwilwyr tân yr un math o wybodaeth gefndir.
Ar adegau cafwyd ymdrechion i ddinistrio systemau diogelwch ac atal tanau. Mae systemau atal tân goddefol wedi cael eu difetha trwy wasgu drysau tân neu gaeadau ar agor a symud deunyddiau fflamadwy er mwyn fflamio'r tân. Er mai'n gymharol anaml y digwyddodd hyn, mae falfiau a phaneli larymau tân hefyd wedi cael eu difetha ac ni ddylid diystyru'r posibilrwydd hwn wrth ail-edrych ar gamau diogelwch. Yn benodol, dylid sicrhau fod ystafelloedd mesuryddion, setiau falfiau a phympiau systemau chwistrellu wedi cael eu diogelu'n ddigonol.
Er mwyn hwyluso archwiliadau arferol ac atal unrhyw ymdrechion i ddifetha systemau chwistrellu:
Dylid gosod setiau falfiau gyda'i gilydd mewn un ystafell er mwyn hwyluso'r gwaith o'u diogelu.
Dylid labelu falfiau'n glir, a dylid eu strapio a'u cloi yn y safle agored a dylai fod yn rhwydd gallu gwirio'r safle hwnnw.
Dylid gosod micro-switsus ar falfiau er mwyn gallu monitro nad oes neb yn ceisio amharu arnynt mewn man canolog.
Dylid diogelu systemau derbyn tanwydd, systemau oeri peiriannau ac agorfeydd egsost ar gyfer pympiau.
Ni ddylai switsus cau mewn argyfwng fod yn hygyrch i bersonau anawdurdodedig.Ar ôl tân dylid archwilio system chwistrellu i sicrhau ei fod wedi gweithio'n iawn ac fod unrhyw gamweithrediad posib yn cael ei ymchwilio'n drylwyr.
Ni ellir gosod ac yna anghofio systemau atal tân goddefol na gweithredol; bydd angen eu harchwilio a'u cynnal a chadw'n rheolaidd. Dylid trefnu contractau gwasanaeth gyda chontractwyr achredig ar gyfer offer a osodwyd ond dylai'r rheolydd diogelwch tân ofalu hefyd fod llwybrau dianc, drysau tân a safonau cadw ty yn cael eu harchwilio'n rheolaidd ac fod cofnodion priodol o'r cyfryw archwiliadau yn cael eu cadw.
Mae'n bwysig cael cyngor arbenigol ynghylch diogelwch goddefol a gweithredol ar gyfer eich adeiladau. Ble bynnag y bo modd, dylid dewis cynhyrchion a gwasanaethau sydd wedi cael ardystiad trydydd parti gan gorff megis y Bwrdd Ardystio Atal Colledion.
8. Mae llawer o danau yn cael eu cynnau'n fwriadol mewn ardaloedd ag iddynt hanes o fandaliaeth a llosgdanau ac fe'u cynheuir trwy ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau fflamadwy gan gynnwys sbwriel sydd wedi'u cymryd allan o'r adeilad. Dylid cael gwared â sbwriel yn rheolaidd a'i osod y tu allan mewn cynhwysydd metel caeëdig a'i osod, ble bynnag y bo modd, o leiaf 10 metr o unrhyw adeiladau ac offer.
Ymhellach, rhaid ystyried nifer o ffactorau rheolaeth diogelwch tân ar gyfer pob cwmni, ac fe fydd y rhain yn dibynnu ar yr adeiladau y maent yn eu defnyddio, natur y busnes ac ethos y sefydliad.
Tueddant i fod yn ffactorau sy'n ymwneud â phobl ac sy'n bennaf yn faterion cysylltiadau staff a threfn effeithiol o ddarparu hyfforddiant ar ddiogelwch tân.
Dylid hyfforddi staff ar y:
Camau i'w cymryd os y digwydd tân. Dylai pawb fod yn gyfarwydd â swn y larwm tân, y llwybrau dianc a, ble'n briodol, sut i ddefnyddio'r offer diffodd tân. Hefyd, bydd angen i rai neu holl aelodau'r staff gael eu hyfforddi ar sut i alw'r frigâd dân. Mae'n bosib hefyd y bydd angen i rai aelodau o'r staff gael eu hyfforddi i'w galluogi i helpu cydweithwyr neu aelodau'r cyhoedd a chanddynt anableddau os y digwydd tân.
Trefniadau cau i lawr. Dylai staff fod yn ymwybodol o'r trefniadau y mae angen eu dilyn ar ddiwedd pob cyfnod gwaith er mwyn sicrhau fod yr adeilad yn ddiogel, nad oes unrhyw bersonau anawdurdodedig ar ôl yn yr adeilad ac fod yr holl brosesau wedi'u cau i lawr yn ddiogel.
Rheoli deunyddiau fflamadwy. Dylai staff wybod pam fod rhaid cael gwared â deunyddiau gwastraff i lecyn storio diogel yn rheolaidd a dylid eu hannog i weithredu'n gyfrifol eu hunain yn hynny o beth. Yn yr un modd, dylid esbonio i staff am fflamadwyedd neu losgadwyedd y deunyddiau y maent yn gweithio â nhw ac unrhyw drefniadau perthnasol y dylid eu dilyn o ran eu storio a'u trafod.
Gwybod am berygl llosgdanau. Mae angen i'r holl staff gael, fel rhan o'u rhaglen hyfforddi, gyfarwyddiadau ar beryglon a chanlyniadau ymosodiad llosgdanol. Mae'r rhain yn cynnwys y posibilrwydd y caiff pobl eu lladd, colli swyddi a tharfu ar barhad y busnes.Bydd cysylltiadau staff da yn gwella'r cydweithredu y gall y rheolwyr ei ddisgwyl oddi wrth eu gweithlu wrth ddiogelu'r busnes rhag ymosodiad llosgdanol gan berson oddi allan i'r busnes. Bydd rheoli effeithiol hefyd yn lleihau'r tebygrwydd y ceir ymosodiad tebyg gan aelod o'r staff.
Dylid cadw cysylltiad agos â'r frigâd dân, yr heddlu a'r yswirwyr er mwyn sicrhau y gellir gwneud popeth ymarferol posib i leihau'r tebygrwydd o ymosodiad llosgdanol. Gan nad yw'n anarferol i losgdân mawr ddilyn un neu gyfres o danau llai, dylid ymchwilio unrhyw dân yn ofalus er mwyn dysgu gwersi ac er mwyn cymryd y camau angenrheidiol i rwystro digwyddiad arall o'r fath.
Helpu eich busnes i oroesi ar ôl tân
9. Os y digwydd tân, bydd cynllun parhad y busnes yn amhrisiadwy. Bydd tuag 80 y cant o gwmnïau nad oes ganddynt gynllun parhad busnes yn fethdalwyr o fewn pum mlynedd o ddioddef trychineb fawr. Dylid paratoi'r cynllun ymlaen llaw a'i ysgrifennu i lawr. Dylai gynwys y gweithdrefnau, cynlluniau, cytundebau, rhifau ffôn pwysig a gwybodaeth allweddol arall a fydd yn galluogi cwmni i ail-afael yn eu gwaith yn yr amser byrraf a mwyaf effeithiol posib wedi trychineb. Dylid cadw copi o'r cynllun mewn man y tu allan i'r adeilad ei hun.
10. Nid yw'r cyfrifoldeb o ymosod ar broblem llosgdanau wedi cael ei adael yn llwyr i reolwyr byd diwydiant a masnach. Mae gan awdurdodau lleol a'r heddlu gyd-gyfrifoldeb i gydweithredu â chyrff eraill er mwyn paratoi a gweithredu strategaeth a fydd yn lleihau lefelau troseddu, gan gynnwys llosgdanau, yn eu gwahanol ardaloedd. Mae croeso felly i reolwyr diogelwch tân gysylltu â'r heddlu neu'r frigâd dân i gael cyngor pellach.
Cam 1: |
Astudio breguster yr adeilad:
|
Cam 2: |
Dynodi'r peryglon tân:
|
Cam 3: |
Dynodi pobl a allai gynnau tanau yn fwriadol: tresbaswyr, ymwelwyr ac aelodau o'r staff. Ystyried hefyd y bobl gaiff eu heffeithio, yn enwedig felly unrhyw un ag anabledd. |
Cam 4: |
Dileu, rheoli neu atal y bygythiad. |
Cam 5: |
Ystyried a yw'r trefniadau diogelwch presennol yn ddigonol neu a oes angen eu gwella. |
Cam 6: |
Ystyried a yw'r trefniadau diogelwch tân presennol yn ddigonol neu a oes angen eu gwella. |
Cam 7: |
Penderfynu ar y categori risg a chofnodi'r casgliadau. |
Cam 8: |
Paratoi cynllun parhad y busnes. |
Cam 9: |
Cynnal adolygiad achlysurol o'r asesiad. |
Cam 1: |
Edrych ar yr adeilad a'r hyn a wneir ynddo. Nodi'r gwahanol ffyrdd y gellid cychwyn tanau yn fwriadol. Dynodi'r mannau mwyaf amlwg yn hynny o beth y tu fewn i'r adeilad a thu allan iddo. Hefyd, ystyried yr ardal y mae'r busnes yn gweithredu ynddo er mwyn asesu pa mor debygol yw y caiff llosgdanau eu cychwyn yn y cylch. |
Cam 2: |
Rhan ganolog o'r asesiad risg ar gyfer llosgdanau yw dynodi, a lleihau i'r graddau y mae hynny'n bosib, ffynonellau deunyddiau fflamadwy a llosgadwy sydd ar gael i'r llosgdanydd. Er y derbynnir na ellir cael gwared â'r rhain yn llwyr, gellir gweithredu er mwyn cael gwared â neu leihau'r bygythiad (gweler Cam 4). Hefyd, dylid gweithredu er mwyn dynodi mannau gwag, pibelli dwr sydd heb eu diogelu, bylchau agored o gwmpas gwasanaethau a phobl debyg gydag unrhyw fath o anabledd. |
Cam 3: |
Dylai'r holl staff dderbyn hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o berygl llosgdanau, a'r bygythiad i fywydau a swyddi. Dylai pawb gymryd rhan mewn ymarferion tân rheolaidd a dylent fod yn ymwybodol o'r angen i helpu pobl gydag unrhyw fath o anabledd. |
Cam 4: |
Ble bynnag y bo modd, dylid cael gwared â ffynonellau posib o ddeunyddiau llosgadwy, hylifau fflamadwy a deunyddiau llosgadwy o'r gweithle. Er enghraifft, efallai y gellid cael gwared â thoddydd fflamadwy a defnyddio un anfflamadwy arall addas yn ei le. Dylid archwilio pob rhan o'r adeilad ar ddiwedd y nos, yn enwedig pan fod contractwyr wedi bod yno. Dylid cynnal asesiad risg ar gyfer tân gan gymryd y camau priodol ble bo'r angen. |
Cam 5: |
Sicrhau y gwneir y defnydd gorau o'r camau diogelwch presennol cyn ystyried rhai newydd, cymhleth neu ddrud. Er enghraifft, mae llawer o dresbaswyr yn dod i mewn i adeiladau trwy ffenestri neu ddrysau nad ydynt wedi'u cau yn iawn, ac felly mae angen gofalu fod archwiliad yn cael ei gynnal ar ddiwedd y dydd. |
Cam 6: |
Gellir gwneud llawer, yn aml heb wario fawr ddim, i leihau'r perygl o losgdanau ac i atal lledaeniad fertigol a llorweddol y tân, ac mae trefn effeithiol o rannu'r adeilad yn adrannau yn elfen hollbwysig mewn unrhyw ymdrech i gyfyngu'r difrod a achosir gan dân. Mae gosod system chwistrellu a fydd nid yn unig yn seinio'r larwm ond hefyd yn mynd ati i geisio diffodd y tân yn gam pellach ymlaen yn hyn o beth. |
Cam 7: |
Nid yw penderfynu ar y categori risg o reidrwydd yn broses fathemategol gymhleth. Gall proses syml o gategoreiddio pob rhan o'r adeilad yn isel, canolig neu uchel fod yn ddigon. |
Cam 8: |
Dylai fod pwrpas penodol ac amlwg i gynllun parhad y busnes. Dylid dynodi aelodau allweddol o'r staff a diffinio eu cyfrifoldebau. Dylid rhestru'r prif gontractwyr ynghyd â manylion sut i gysylltu â nhw. Dylid gwneud trefniadau ar gyfer gofalu am les y staff yn ogystal â chymryd camau ymarferol i sicrhau fod gwaith y busnes yn dioddef cyn lleied â phosib. Dylid cadw copi o'r cynllun mewn man y tu allan i'r adeilad ei hun. |
Cam 9: |
Dylid adolygu'r asesiad os yw natur y busnes, nifer y staff, y deunyddiau a ddefnyddir neu gymeriad y gymdogaeth yn newid yn sylweddol. |