
Lleihau’r Risgiau
Cymerwch y cyfrifoldeb
- Yn unrhyw fusnes, mae’r perchennog neu’r rheolwr yn gyfrifol am ddiogelwch rhag tân.
- Fel y person cyfrifol, yn gyntaf oll mae angen i chi feddwl am bob ffordd y gallai rhywun gynnau tân yn fwriadol - tu mewn neu du allan i’r adeilad.
- Ydych chi wedi cael tanau bach yn eich adeilad eisoes? Ydych chi wedi clywed am danau eraill yn digwydd yn lleol? Os felly, dywedwch wrth yr heddlu a byddwch yn wyliadwrus. Yn llawer rhy aml mae tanau bach yn rhybudd fod gwaeth i ddod.
- Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw ffurf o fandaliaeth. Os nad yw graffiti neu ddifrod yn cael ei lanhau’n syth, mae’n medru gwneud yr ardal yn darged i fân achosion o losgi bwriadol – sy’n medru mynd yn fwy difrifol yn gyflym iawn.
- Fel rhan o hyfforddiant eich staff, atgoffwch yr holl weithwyr o’r bygythiad o losgi bwriadol, a gofynnwch iddynt reportio unrhyw ymddygiad amheus - gan unrhyw un!
Edrychwch ac edrychwch eto !
- Y peth cyntaf pob dydd, sicrhewch fod y diffoddiaduron a’r riliau pibell yn barod i’w defnyddio, bod y drysau dianc wedi eu datgloi ac nad yw’r drysau tân wedi eu lletemu ar agor.
- Cynhaliwch archwiliadau cyfnodol, i sicrhau fod pob rhan o’r adeilad yn ddiogel, nad oes yna unrhyw danau “cudd”, ac y gellir gweithredu’r arfer i ymdrin ag eitemau gadawedig yn syth.
- Os yw eich busnes yn croesawu llawer o gwsmeriaid a chyflenwyr i’r adeilad, sicrhewch nad ydynt yn cael mynediad i ardaloedd a gyfyngir i staff yn unig. Mae angen i safleoedd mwy diogel i gynnal eu diogelwch.
- Cyn cloi i fyny gyda’r nos, sicrhewch nad oes yna unrhyw beryglon amlwg ac nad oes deunydd fflamadwy o gwmpas y lle, gwnewch yn si?r nad oes pobl anawdurdodedig yn dal i fod yn yr adeilad, a bod yr holl ddrysau a’r ffenestri wedi eu cau’n ddiogel, a bod larymau a goleuadau diogelwch wedi cael eu cynnau.
- Bob wythnos, gwiriwch fod y system ddiogelwch, y larwm mwg a’r system ysgeintio, yn gwbl weithredol.
Byddwch yn wyliadwrus
- Ydych chi’n darged? Mae’r mwyafrif o danau bwriadol, lle mae busnes yn y cwestiwn, yn cychwyn tu allan i’r adeilad. Gan amlaf, fandaliaid ifanc yw’r tramgwyddwyr, a’u bwriad yw achosi trwbl. Oportiwnwyr yw’r rhain, sy’n cynnau eu tanau gydag unrhyw beth sydd gerllaw - sbwriel, pecynnu, gwastraff mewn sgipiau agored ayb.
- Pa mor rhwydd fyddai i gynnau tân neu i guddio dyfais llosgi? Mae llosgwyr bwriadol yn gweithredu tu mewn i adeiladau hefyd - aelodau o staff cenfigennus, neu rywun arall sy’n ceisio gwneud pwynt neu guddio trosedd arall.