Pa mor ddiogel ydych chi?
Bydd y rhestr wirio hon yn eich helpu i leihau eich siawns o ddioddef ymosodiad o losgi bwriadol:
- Cyfyngwch y nifer o fynedfeydd a ddefnyddir- ond peidiwch â chloi allanfeydd tân!
- Cadwch lygad ar beth sy’n mynd ymlaen. Mae’n bosib bydd busnesau mwy o faint yn ystyried cyflogi gard diogelwch yn y prif fynedfeydd. Mewn siopau a busnesau llai o faint fe ddylech chi a’ch staff fod yn wyliadwrus.
- Os ydych wedi eich lleoli mewn canolfan siopa neu mewn parc diwydiannol neu fân-werthu, siaradwch â rheolwr diogelwch y safle cyfan. Sicrhewch fod y safle’n ddiogel gyda’r nos, a reportiwch unrhyw arwyddion sy’n eich gwneud i feddwl nad yw’r safle’n ddiogel.
- Sicrhewch fod y drysau a’r ffenestri mewn cyflwr da a bod y cloeon yn gweithio.
- Dylai’r bylchau o dan y drysau i’r stryd fod mor gul ag sy’n bosib, i atal papur wedi’i gynnau neu danwydd rhag cael eu gwthio o danynt.
- Dylai bocsys llythyrau gynnwys cynhwysydd metel ar yr ochr tu mewn, i gynnwys unrhyw danau a gychwynnwyd gan glytiau neu bapur wedi eu cynnau, neu dân gwyllt.
- Cadwch restr o’r bobl sydd ag allweddi. Ewch ati i siasio unrhyw allweddi sydd ar goll.
- Byddwch yn ymwybodol o’r llwybrau mynediad i ymwthwyr – trwy’r iard, peipiau llaw, toeon gwastad. Beth fedrwch chi’i wneud i’w hatal?
- Mae ardaloedd o berygl arbennig yn cynnwys storfeydd a warysau. Gwnewch reol mai aelodau awdurdodedig o staff yn unig sy’n cael mynediad iddynt.
- Mae’n rhaid diogelu a chynnal a chadw diogelwch pob perimedr. Mae diogelwch da yn atal llosgi bwriadol, yn ogystal â lladradau.
- A oes yna– neu a ddylai fod yna – system i adael goleuadau ynghyn gyda’r nos?
- Peidiwch â gadael i sbwriel fod yn fygythiad - mae’n rhaid i chi beidio â gadael pecynnu, gwastraff na sbwriel i gronni yn unrhyw le ar y safle. Dylid ei waredu’n rheolaidd i le diogel i’w storio.
- Mae storio diogel yn golygu biniau metel gyda chloriau caeedig – gorau i gyd os ydynt yn cael eu cloi i fyny yn eu hadrannau unigol eu hunan.
- Trefnwch fod yr Awdurdod Lleol neu gontractwr yn casglu sbwriel a gwastraff yn rheolaidd.