
Canfod y Risgiau
5 cam yr asesiad risg
Crynodeb yw’r canlynol o’r 5 cam fydd angen i chi eu dilyn er mwyn mynd ati i gynnal asesiad risg o dân oddi fewn i’ch adeilad chi:
Cam 1 - Canfyddwch y peryglon s
- Ffynonellau tanio
- Ffynonellau o Danwydd
Cam 2 - Canfyddwch y bobl sydd wrth risg yn arbennig
- Aelodau o staff
- Pobl nad sy’n gyfarwydd â’r adeilad
- Pobl sy’n gweithio ar eu pennau hunain
Cam 3 - Gwerthuswch, gwaredwch, lleihewch a diogelwch rhag risgiau
- Mesurau i atal tanau
- Mesurau i ddiogelu pobl rhag tân
Cam 4 - Cofnodwch, cynlluniwch, cyfarwyddwch, hysbyswch a hyfforddwch
- Cofnodwch y darganfyddiadau arwyddocaol a’r camau a gymerwyd
- Paratowch gynllun argyfwng
- Hysbyswch y bobl berthnasol, rhowch gyfarwyddiadau, cydweithredwch a chyd-drefnwch gydag eraill
- Rhowch hyfforddiant
Cam 5 - Adolygwch
- Adolygwch eich asesiad yn gyson
- Diwygiwch ef le bod angen
Camau 1-3: Canfod a gwerthuso’r risgiau
Mae’r canlynol yn rhoi cyfarwyddyd ychwanegol ar gwblhau tri cham cyntaf eich asesiad risg – sef canfod a gwerthuso’r risgiau:
Cam 1 - Canfyddwch y peryglon tân yn eich adeilad
Mae angen i chi ganfod:
- Ffynonellau tanio megis fflamau noeth, gwresogyddion neu rai prosesau masnachol.
- Ffynonellau o danwydd megis gwastraff wedi cronni, deunyddiau arddangos, tecstilau neu ormodedd o stoc.
- Ffynonellau o ocsigen ychwanegol megis aer cylchredol grymus neu gyflenwadau o ocsigen meddygol neu fasnachol.
Cam 2 - Canfyddwch y bobl sydd wrth risg
Bydd angen i chi ganfod y bobl hynny a allai fod wrth risg arbennig, megis:
- Pobl sy’n gweithio’n agos iawn at beryglon tân.
- Pobl sy’n gweithio ar eu pennau hunain neu mewn ardaloedd ynysig (megis gofodau’r to neu mewn stordai).
- Plant neu rieni gyda babanod.
- Yr henoed neu’r eiddil, a phobl sy’n anabl.
Cam 3 - Gwerthuswch, gwaredwch, lleihewch a diogelwch rhag risgiau
Gwerthuswch y lefel o risg yn eich adeilad. Dylech chi waredu neu leihau peryglon, lle bod hynny’n bosib, a lleihau unrhyw risg a ganfuwyd gennych, e.e.:
- Amnewidiwch ddeunyddiau tra fflamadwy gyda rhai llai fflamadwy.
- Sicrhewch fod digon o fwlch rhwng y deunyddiau fflamadwy a’r ffynonellau tanio.
- Gweithredwch bolisi ysmygu diogel.
Pan fyddwch wedi lleihau’r risg cyn belled ag sy’n bosib, mae’n rhaid i chi asesu’r risg sy’n weddill, a phenderfynu p’un ai bod angen i chi ddarparu mesurau pellach i sicrhau lefel rhesymol o ddiogelwch rhag tân.
Camau 4-5: Cofnodi ac Adolygu
Mae’r canlynol yn rhoi cyfarwyddyd ychwanegol ar gwblhau’r ddau gam sy’n weddill o’ch asesiad risg – sef cofnodi ac adolygu:
Cam 4 - Cofnodwch, cynlluniwch, cyfarwyddwch, hysbyswch a hyfforddwch
Yn y cam hwn fe ddylech chi gofnodi, cynllunio, cyfarwyddo, hysbysu a hyfforddi. Bydd angen i chi gofnodi’r peryglon a ganfuwyd fel risgiau arbennig yng Nghamau 1 a 2. Hefyd, fe ddylech chi gofnodi beth wnaethoch chi amdanynt yng Ngham 3. Mae cynllun syml yn medru eich helpu i gyflawni hyn.
Hefyd, bydd angen i chi baratoi cynllun argyfwng, wedi’i deilwrio ar gyfer eich adeilad. Dylai gynnwys y gweithredoedd sydd angen eu cyflawni os oes tân yn amlygu yn eich adeilad, neu yn unrhyw adeilad sy’n ffinio. Bydd angen rhoi cyfarwyddiadau i staff, ac eraill o bryd i’w gilydd, megis gwesteion mewn gwesty neu stiwardiaid gwirfoddol. Dylid rhoi gwybodaeth a hyfforddiant digonol i weithwyr am y risgiau sy’n bodoli yn yr adeilad. Bydd rhai, megis marsialiaid tân, angen hyfforddiant mwy trylwyr.
Cam 5 - Adolygwch
Dylech chi sicrhau fod eich asesiad risg o dân yn un diweddar, bydd angen i chi ail-archwilio eich asesiad risg o dân bob tro y mae yna newid sylweddol i’r lefel o risg yn eich adeilad. Gallai hyn gynnwys cynnydd yn y deunyddiau fflamadwy a storir, sifft nos newydd yn cychwyn, neu newid yn y math neu’r nifer o bobl sy’n defnyddio eich adeilad.