www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Cynllunio i Leihau Risg

Yn ei gyfarfod ar yr 21ain o Ebrill 2008 cymeradwyodd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei Gynllun Gweithredu Drafft ar Leihau Risg 2009/2010.

Mae’r cynllun yn amlinellu’r modd y gall Gwasanaeth Tân ac Achub yr Awdurdod ddefnyddio’i adnoddau yn y modd mwyaf effeithiol posibl, lleihau’r achosion o danau, ac arbed rhagor o fywydau.

mwy »

Cynlluniau ac Adroddiadau
Procurement Department
Cyflwyniad

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn prynu cyflenwadau, gwasanaethau a gwaith sy’n amrywio mewn gwerth, o ychydig bunnoedd i lawer o gannoedd o filoedd, ac mae’n gwario oddeutu £14m fesul blwyddyn ar gyflenwi nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae hyn yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd masnachol ar gyfer cyflenwyr a chontractwyr o bob math a maint.

Datganolwyd caffaeliad beunyddiol o fewn y sefydliad, ac mae’r rheolwyr cyllideb yn gyfrifol am brynu ar gyfer eu hadrannau eu hunain, yn unol â chynllun dirprwyaeth ariannol Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn unol â rheolau sefydlog cytundebau, lle mae’n rhaid i’r rheolwyr cyllideb i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth pwrcasu’r sector cyhoeddus. Hefyd, mae yna adran caffaeliad ganolog sy’n gyfrifol am ddwy swyddogaeth, sef Caffaeliad Corfforaethol a leolir yn y Pencadlys yng Nghaerfyrddin, a Phrynu a Chyflenwi a leolir yn Earlswood, Pentrecaseg.


Mwy o wybodaeth »

Llythyron Archwilio Blynyddol
Mae'r Llythyron Archwilio Blynyddol yn fecanweithiau pwysig lle y gellir sicrhau'r cyhoedd ac eraill y bydd y Gwasanaeth yn cael ei reoli'n effeithiol ac y bydd yn cynnig stiwardiaeth effeithlon dros yr arian cyhoeddus mae'n rheoli.

Cyfarfodydd yr Awdurdod Tân
Hysbysiadau, agendâu, cofnodion ac adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a'i bwyllgorau.

Mae Cofnodion ein cyfarfodydd yn cael eu hychwanegu yn barhaus, Os ydych yn dymuno cael gopïau o bapurau nad sydd ar gael ar lein eto, yna cysylltwch â ni ar mail@mawwfire.gov.uk

Cynllun Iaith Gymraeg
Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd yn trin yr Iaith Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd, pan yn ymdrin â'i holl fusnes cyhoeddus gyda aelodau o'r cyhoedd yn ei ardal.

Canmoliaethau a Chwynion
Mae gennym ddisgwyliadau mawr iawn o’n holl staff, yn enwedig wrth ymdrin â chi. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried ein bod ni’n gyfeillgar, yn hygyrch ac yn gymwys. Darllenwch yma am ein gweithdrefn canmoliaethau a chwynion.

Lawrlwytho’r Llyfryn » (PDF, 85kb)

Adroddiadau Monitro Ystadegau Tân
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn llunio adroddiadau monitro gweithgarwch chwarterol o'r data a gyflwynwyd gan bob un o'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.

Mwy » (PDF, 85kb)

Related Wesites
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service