

Ar yr olwg gyntaf, ymddengys y potensial i Wasanaeth Tân ac Achub i gyflawni gwasanaeth yn electronig braidd yn gyfyngedig. Fodd bynnag, mae'r Gwasanaeth Tân modern yn ymgymryd â nifer sylweddol o weithgareddau yn gyfochrog gyda'i rolau craidd traddodiadol o ddiffodd tân ac achub ac mae llawer ohonynt yn addas iawn ar gyfer eu cyflawni ar ffurf electronig.
Mae enghreifftiau o'r dyletswyddau nad sy'n argyfyngau a ymgymerir yn cynnwys cyhoeddi tystysgrifau tân, darparu gwybodaeth diogelwch rhag tân, asesu adeiladau risg uchel a chrynhoi adroddiadau tân ar gyfer dibenion yswiriant ayb. Yn ogystal, fel pob corff cyhoeddus arall, rhaid ymdrin â llawer o weithgareddau busnes nodweddiadol yn cynnwys caffaeliad, recriwtio, ymgynghoriad a chyhoeddi amrywiol fathau o ddeunydd sydd yn benodol ar gyfer y gymdeithas.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cofnodi ei gynlluniau ar gyfer, a chynnydd tuag at, gyflwyno trefniadau cyflawni gwasanaeth electronig wrth Weithredu Datganiadau Llywodraeth Electronig (IEG). Cewch ddadlwytho'r datganiadau cyfredol a datganiadau'r gorffennol drwy ddilyn y cysylltiadau isod.
| IEG 3 Statement (2003/04) (PDF, 146kb) |
IEG 2 Statement (2002/03) (PDF, 155kb) |
| Sianeli Mynediad |