www.mawwfire.gov.uk
Cymraeg | English
Cynllunio i Leihau Risg
Cynllunio i Leihau Risg



Ym mis Ebrill 2007, dechreuodd yr Awdurdod weithredu ei Gynllun Lleihau Risg ar gyfer 2007/10. Roedd y ddogfen lefel uchel hon yn amlinellu amcanion allweddol i wella ein gwasanaethau, a chynorthwyo i wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru’n fwy diogel. Eisoes, mae’r holl amcanion a oedd yn gynwysedig yn y Cynllun Lleihau Risg ar gyfer 2007-2010 wedi bod yn agored i broses o ymgynghori cyhoeddus ar raddfa fawr, a gynhaliwyd yn 2006-2007 cyn i’r cynllun ymddangos ar ei ffurf derfynol.

Paratôdd yr Awdurdod Gynllun Gweithredu Lleihau Risg drafft ar gyfer 09/10 ac ymgynghorwyd ynghylch dau gynnig, rhwng y 6ed o Fai 2008 a’r 29ain o Orffennaf 2008.

1. Criwiau ymroddedig ar gyfer peiriannau arbennig - The Mae ardal Abertawe yn derbyn peiriannau arbennig newydd, a fydd yn galw am adolygu’r opsiynau criwiau ar gyfer y peiriannau yma a’r rhai eraill.

2. Gorsafoedd criw dydd - Mae’r gorsafoedd yma’n cynnwys diffoddwyr tân llawn amser sydd ar ddyletswydd yn ystod oriau’r dydd. Mae angen i’r oriau ar ddyletswydd i gyd-fynd â’r amserau lle bod y risg ar ei fwyaf. Dadansoddwyd gweithgarwch mewn gorsafoedd criw dydd, er mwyn lleoli’r staff sy’n gweithio yn y gorsafoedd yma yn y modd gorau.

Mae’r Awdurdod wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd ar y cynigion, ac mae adroddiad yn manylu am ganlyniadau’r ymgynghoriad ar gael i’w weld.

Yn ei gyfarfod, a gynhaliwyd ar y 27ain o Hydref 2008, fe wnaeth Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gymeradwyo ei Gynllun Gweithredu Lleihau Risg Terfynol ar gyfer 2009/10. Mae’r cynllun yn adrodd am argymhellion terfynol yr Awdurdod am y ddau faes a ymgynghorwyd yn eu cylch. Hefyd, darperir gwybodaeth yn y cynllun am gyflawniadau’r Awdurdod, a’r symudiad parhaus mewn pwyslais at atal tanau ac argyfyngau wrth gynnal trefniadau ymateb cyflym, effeithlon ac effeithiol.


Cynllun Gweithredu Lleihau Risg Terfynol 2009/2010 (PDF, 1.37mb)
Adroddiad yr Ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Lleihau Risg 2009/2010 (PDF, 1mb)
Cynllun Gweithredu Lleihau Risg Drafft 2009/2010 (PDF, 2.55mb)
Cynllun Gweithredu Lleihau Risg 2008/2009 (PDF, 1.61mb)
Adroddiad yr Ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Lleihau Risg 2008/2009 (PDF, 242kb)
Cynllun Gweithredu Lleihau Risg Drafft 2008/2009 (PDF, 3.18mb)
Cynllun Lleihau Risg Terfynol 2007/2010 (PDF, 6.1mb)
Adroddiad Ymgynghoriad Lleihau Risg 2007/2010 (PDF, 1.7mb)
Cynllun Lleihau Risg Drafft 2007/2010 (PDF, 5.3mb)
Cefndir Cynllunio i Leihau Risg
Canllawiau Cynllunio i Leihau Risg Llywodraeth Cynulliad Cymru
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (PDF, 199kb)
Cynlluniau Rheoli Risg Integredig Blaenorol
Cyswllt â'r Tîm Cynllunio i Leihau Risg
Rhestr o Fudd-ddalwyr a ymgynghorwyd yn ystod y broses o ymgynghori


Cynlluniau Busnes 2008- 09


County Commands
Carmarthenshire (PDF, 47kb)
Ceredigion (PDF, 64kb)
Neath Port Talbot (PDF, 151kb)
Pembrokeshire (PDF, 104kb)
Powys (PDF, 125kb)
Swansea (PDF, 129kb)
Departments
Communications & Information Systems (PDF, 67kb)
Corporate Communications & Member Support (PDF, 71kb)

Community Risk Reduction (PDF, 147kb)

Human Resources (PDF, 46kb)
Health and Safety Management (PDF, 43kb)
Operational Risk Management (PDF, 212kb)

Premises (PDF, 57kb)

Learning and Development (PDF, 227kb)
Transport (PDF, 54kb)




© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service