Neges o Groeso gan Gadeirydd yr Awdurdod
Neges o Groeso gan Gadeirydd yr Awdurdod
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi i mi gael fy enwebu i barhau fel Cadeirydd yr Awdurdod Tân yn 2008-2009. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n 12 Aelod newydd, a’r rhai hynny sy’n dychwelyd am flwyddyn arall.
Mae’r Awdurdod Tân yn cynnwys 25 o Aelodau etholedig, sy’n cynrychioli’r chwe Awdurdod Lleol yn ardal Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rôl yr Aelodau yma yw cynrychioli barnau a buddiannau eu hawdurdodau unedol cyfansoddol, a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu pobl, eiddo a’r amgylchedd rhag tanau ac argyfyngau eraill, yn ogystal â darparu gwasanaethau dyngarol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy gynnwys a hysbysu’r gymuned, a gweithio mewn partneriaeth gydag eraill.
Wrth gyflawni ei wasanaethau rhagweithiol ac adweithiol, mae’n bosib bydd yr Awdurdod, o bryd i’w gilydd, yn penderfynu hyrwyddo buddiant ehangach yn hytrach na buddiannau unrhyw unigolyn neu gr?p penodol. Fodd bynnag, rydw i eisiau sicrhau pawb, y bydd y fath benderfyniadau’n cael eu gwneud yn dilyn ymgynghoriad eang yn unig, a fydd yn adlewyrchu ethos y llywodraeth ddemocrataidd leol, a sut mae’n cael ei gofleidio gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.