
Defnyddio’r Podcast
Beth yw Podcast?
Term yw “Podcast” i ddisgrifio cysyniad syml iawn: ffeil glywedol neu fideo sydd ar gael ar y Rhyngrwyd i chi wrando arni neu ei gwylio. Hefyd, mae Podcast yn medru cyfeirio at gyfres o’r ffeiliau clywedol neu fideo yma (yn debyg i’r ffordd mae “rhaglen” deledu neu radio yn medru bod yn gyfres o raglenni neu’n rhaglen unigol). Wrth ddefnyddio’r gair “Podcast”, mae’r mwyafrif o bobl yn cyfeirio at y gyfres gyfan, yn hytrach nag un ffeil glywedol neu fideo.
Pa fath o gynnwys byddwch chi’n ei glywed yn y Podcastiau yma?
Bydd y podcastau’n cwmpasu amryw o destunau sy’n ymwneud â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gallai’r rhain gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus pwysig, cyfweliadau, datganiadau i’r wasg, rhybuddion i’r cyhoedd ayb., a fydd ar gael i’w clywed / gweld am ddim, unrhyw bryd.
Sut i lawrlwytho ffeiliau
I lawrlwytho ffeiliau, cliciwch y botwm ar y dde ar "Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffynhonnell”, dewiswch 'Save target as', a dewiswch ble’r ydych chi eisiau cadw’r ffeil. Os ydych chi’n defnyddio Mac, rhowch glic dwbl ar y ddolen, a defnyddiwch y ffenest ar y sgrîn i ddewis pen taith y ffeil.
I wrando ar ffeiliau clywedol MP3, wedi i chi eu lawrlwytho, bydd angen bod chwaraewr addas wedi’i osod ar eich peiriant. Os nad oes gennych chwaraewr addas, mae meddalwedd a gwybodaeth ar gael oddi wrth:
Sut i chwarae ffeiliau ar eich Cyfrifiadur Personol (PC)
Os ydych chi eisiau gwrando ar eich Cyfrifiadur, pwyswch y botwm "play" ar y chwaraewr Podcast a leolir yn syth o dan deitl pob Podcast.
© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service