

| Cynyddu Maint y Testun: | Newid Maint a Lliw y Testun: |
| Internet Explorer | Internet Explorer |
| Mozilla / Firefox | Mozilla / Firefox |
| Opera | Opera |
| Netscape | Netscape |
| AOL | AOL |
Dewiswch View yn newislen y porwr
Yna dewiswch Text Size (neu Font yn fersiwn 4)
Yna dewiswch Larger neu Largest
Dewiswch y ddewislen View, cliciwch ar Text Zoom a newidiwch y canran zoom.
Neu, defnyddiwch ‘Ctrl +’ neu ‘Ctrl-‘ i gynyddu neu ostwng maint y testun.
Ewch i mewn i’r ddewislen View, yna dewiswch Zoom, a dewiswch y canran yr hoffech chi ei weld.
Dewiswch My AOL, yna Preferences a chliciwch ar yr eicon WWW. Yn Advanced Settings, dewiswch Browser Display, a dewiswch faint addas ar gyfer y testun.
Gallwch ddewis maint y ffont, steiliau a lliwiau, lliwiau blaendir a chefndir y tudalennau Gwe sy’n ymddangos ar sgrîn y cyfrifiadur, hyd yn oed os yw awdur y dudalen wedi eu dewis eisoes. Hefyd, gallwch ddewis y lliw a ddefnyddir i ddynodi cysylltiadau mewn tudalennau Gwe, neu liw arbennig ar gyfer cysylltiadau a ddefnyddir yn unig pan fo’r llygoden yn pasio dros y cyswllt.
Mae hyn yn ddefnyddiol os oes nam ar eich llygaid, neu os ydych chi angen ffont mwy o faint, neu liwiau gwrthgyferbyniol. Gallwch wneud i’r Internet Explorer i ddefnyddio’r lliwiau a’r ffontiau a ddewisoch chi, lliwiau a ffontiau eich diofyn Windows, neu’r gosodiadau a ddewiswyd gennych ar eich ‘style sheet’ chi.
Fersiwn 5+ -
Ewch i’r ddewislen Tools a chliciwch ar Internet Options.
Cliciwch ar Colours. Gallwch newid lliw testun a chefndir y dudalen yn ogystal â lliw’r cysylltiadau sy’n ymddangos, yna cliciwch OK.
O fewn Internet Options, dewiswch Accessibility a chliciwch ar ‘Ignore Colours specified on Web pages’. Cliciwch OK.
Os ydych chi eisiau dewis eich taflen steil eich hunan i fformadu tudalennau, dewiswch y blwch 'Format documents using my style sheet', a chwiliwch am yr un rydych chi eisiau ei ddefnyddio.
Fersiwn 4 - Defnyddiwch y tab View – Options – General. Oddi tano ceir y botymau Colours ac Accessibility.
Fersiwn 3 - UDefnyddiwch y tab – View – Options – General, a dewiswch liwiau’r testun, cefndir a’r cysylltiadau rydych chi eisiau eu defnyddio. Yn anffodus, does yna ddim opsiwn i osgoi’r ‘style sheets’.
Ar gyfer Apple Mac -
ch i ddewislen Edit a dewiswch Preferences. Cliciwch ar Web Content
Dad-ddewiswch y botwm a farciwyd ‘show style sheets’
Dychwelwch i’r rhestr ddewisiadau. Cliciwch ar Web Browser
Dewiswch ‘language/fonts’ a dewiswch maint y ffont sydd angen arnoch
Mozilla:
Dewiswch View o’r ddewislen ac yna Use Style Sheet.
Mae hefyd yn bosib newid y ffont a’r lliw drwy ddewis Edit ar y ddewislen, yna Preferences, Appearance ac, yn olaf, Fonts neu Colours.
Firefox:
Dewiswch View o’r ddewislen ac yna Page Style.
Fersiwn 6 -
Dewiswch y ddewislen File – Preferences ac un a’i yr opsiwn Accessibility, yr opsiwn Font a Colours, yr opsiwn Page style neu’r opsiwn Multiledia neu unrhyw gyfuniad ohonynt.
Fersiwn 4 a 5 -
Dewiswch y ddewislen File – Preferences a dewiswch yr eitem Documents yn y goeden i’r chwith. Dewiswch pob elfen rydych chi eisiau eu newid yn eu tro, o’r rhestr User Ffont a lliw (Normal yw’r sylfaen, felly newidiwch hwn yn gyntaf). Trwy ddefnyddio’r…botwm i’r chwith, gallwch ddewis lliw’r ffont. Mae lliw’r cefndir wedi ei nodi o dan y rhestr. Yna, defnyddiwch y botwm ar waelod y ffenest i doglo rhwng gosodiadau’r ddogfen a’r defnyddiwr, i weld y newidiadau.Os ydych eisiau defnyddio eich ‘style sheet’ eich hunan i fformadu’r tudalennau, chwiliwch am yr un rydych chi eisiau ei ddefnyddio.
Fersiwn 3 - Ewch i’r ddewislen Preferences – Document Appearance ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau uchod
Fersiwn 4+ -
Ewch i ‘Edit’.
SDewiswch ‘Preferences’, ‘Appearance’, ‘Colours’. (Os nad ydych yn medru newid y lliwiau, gwnewch yn siwr nad yw’r blwch ‘Use Windows Colours’ wedi ei ddewis)
Dewiswch ‘Always use my colours, overriding document’, yna dewiswch eich lliwiau.
Fersiwn 3 - Ewch i’r tab Options, General Preferences a Colours ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau uchod.
Un a’i ar lein neu oddi ar lein, cliciwch ar Customise ar y bar offer. Cliciwch ar Preferences, yna InternetMae hyn yn eich tywys i Internet Properties – yr un fath a Internet Explorer 5 (gweler y cyfarwyddiadau ar gyfer IE 5)