Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ar y wefan, yn cynnwys dulliau o lywio, ein ffyrdd o sicrhau hygyrchedd, yr allweddi mynediad sydd ar gael i neidio’n gyflym i feysydd allweddol drwy gyfrwng y bysellfwrdd, gwybodaeth am ddogfennau PDF a hygyrchedd, a ffyrdd o newid maint y testun yn eich porwr, yn ogystal â dweud sut mae defnyddio’r nodweddion hygyrchedd sydd ynghlwm wrth eich porwr.
Gallwch lywio prif adrannau’r safle drwy ddefnyddio’r cysylltiadau ar ochr chwith y dudalen. Mae’r ddewislen hon yn gyson drwy gydol y safle.
Mae’r hafan yn edrych ychydig yn wahanol i weddill tudalennau’r safle, i’ch galluogi i gael mynediad at rannau o’r safle yn gyflym. Mae’r dudalen hon yn newid yn rheolaidd ac mae’n cynnwys y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf yn ogystal â beth sy’n newydd ar weddill y safle.
Mae’r bar llywio uchaf yn cynnwys cysylltiadau i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch ymweliad â’r safle:
Bydd 'Cartref' yn eich dychwelyd i’r Hafan steil porth bob amser
Cliciwch ar 'In English' i weld fersiwn Saesneg o’r dudalen rydych chi’n ymweld â hi
Mae’r Canllaw Mynediad hwn ar gael oddi ar bob tudalen
Mae 'Cysylltwch â ni' yn cynnwys ffurflen i gyflwyno ymholiadau ac atborth i ni. Hefyd, mae’r dudalen hon yn cynnwys ein cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost
I gynorthwyo gyda’r llywio rydym yn darparu Map o’r Safle. Mae’n cynnwys holl brif adrannau ac is adrannau’r safle ar un tudalen.
Hygyrchedd
Rydym yn cydymffurfio â siecbwyntiau Blaenoriaeth 1 a 2 sydd wedi eu cynnwys yn y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe a gynabyddir yn rhyngwladol.
Er mwyn gwneud ein tudalennau mor hygyrch ag sy’n bosib, rydym wedi cynnwys y canlynol yn nyluniad ein safle:
Allweddi Mynediad – llwybrau brys bysellfwrdd i gynorthwyo gyda’r llywio
Dynesiad hyblyg i sicrhau y gallwch newid maint y testun yn eich porwr
Mae gan y delweddau ddisgrifiad testun i helpu defnyddwyr porwyr testun a lleferydd
Cymorth gyda PDF’au – lle bynnag y bo dogfen PDF, rydym yn cynnwys cyswllt at ein tudalen “Beth yw PDF?”, sy’n cynnwys gwybodaeth am PDF’au a hygyrchedd
Rydym yn darparu cymorth gyda nodweddion hygyrchedd mewn rhai porwyr
Darperir cyswllt Naid Llywio cudd ar bob tudalen i alluogi defnyddwyr porwyr lleferydd i osgoi’r bariau llywio a mynd yn syth at brif gynnwys y dudalen