Cynllun Lleihau Tanau Glaswellt a Choedwig
Er mwyn cynorthwyo i leihau nifer y math yma o danau, rydym wedi cyflogi Radio Bae Abertawe (102.1 FM) www.swanseabayradio.com i baratoi neges diogelwch y cyhoedd, sy’n ymwneud â’r thema o leihau tanau glaswellt a choedwig. Cynulleidfa darged Radio Bae Abertawe yw pobl dros 25 oed, sy’n clymu i mewn gyda’n dymuniad i dargedu rhieni. Rydym ni eisiau gwneud i rieni/oedolion i feddwl am ganlyniadau tanau o’r fath, wrth eu hannog i addysgu eu plant am ddiogelwch rhag tân. Bydd yr hysbyseb 40 eiliad yn rhedeg am flwyddyn, a bydd yn cael ei ddarlledu 4-5 tro bob dydd.